Peidiwch ag ymgysylltu'n amhriodol ag anghredinwyr, oherwydd pa gyfathrach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfraith? A pha gymdeithas sydd rhwng goleuni a thywyllwch? Pa gytgord sydd rhwng Crist a Belial? Neu pa gyfran sydd i gredadun gydag anghredadun? Pa gytundeb sydd rhwng teml Duw ac eilunod? Oherwydd nyni yw teml y Duw byw. Fel y dywedodd Duw: “Trigaf ynddynt hwy, a rhodiaf yn eu plith, a byddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwythau'n bobl i minnau. Am hynny, dewch allan o'u plith hwy, ymwahanwch oddi wrthynt, medd yr Arglwydd, a pheidiwch â chyffwrdd â dim byd aflan. Ac fe'ch derbyniaf chwi, a byddaf i chwi yn dad, a byddwch chwi'n feibion a merched i mi, medd yr Arglwydd, yr Hollalluog.”
Darllen 2 Corinthiaid 6
Gwranda ar 2 Corinthiaid 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Corinthiaid 6:14-18
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos