Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Corinthiaid 5:11-21

2 Corinthiaid 5:11-21 BCND

Felly, o wybod beth yw ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio pobl; y mae'r hyn ydym yn hysbys i Dduw, ac rwy'n gobeithio ei fod yn hysbys i'ch cydwybod chwi hefyd. Nid ydym yn ein cymeradwyo ein hunain unwaith eto i chwi, ond rhoi cyfle yr ydym i chwi i ymffrostio o'n hachos ni, er mwyn ichwi gael ateb i'r rhai sy'n ymffrostio yn yr hyn sydd ar yr wyneb yn hytrach na'r hyn sydd yn y galon. Os ydym allan o'n pwyll, er mwyn Duw y mae hynny; os ydym yn ein hiawn bwyll, er eich mwyn chwi y mae hynny. Oherwydd y mae cariad Crist yn ein gorfodi ni, a ninnau wedi ein hargyhoeddi o hyn: i un farw dros bawb, ac felly i bawb farw. A bu ef farw dros bawb er mwyn i'r byw beidio â byw iddynt eu hunain mwyach, ond i'r un a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd. O hyn allan, felly, nid ydym yn ystyried neb o safbwynt dynol. Hyd yn oed os buom yn ystyried Crist o safbwynt dynol, nid ydym yn ei ystyried felly mwyach. Felly, os yw rhywun yng Nghrist, y mae'n greadigaeth newydd; aeth yr hen heibio, y mae'r newydd yma. Ond gwaith Duw yw'r cyfan—Duw, yr hwn sydd wedi ein cymodi ni ag ef ei hun trwy Grist a rhoi i ni weinidogaeth y cymod. Hynny yw, yr oedd Duw yng Nghrist yn cymodi'r byd ag ef ei hun, heb ddal neb yn gyfrifol am ei droseddau, ac y mae wedi ymddiried i ni neges y cymod. Felly cenhadon dros Grist ydym ni, fel pe bai Duw yn apelio atoch trwom ni. Deisyf yr ydym dros Grist, cymoder chwi â Duw. Ni wybu Crist beth oedd pechu, ond gwnaeth Duw ef yn un â phechod drosom ni, er mwyn i ni ddod yn gyfiawnder Duw ynddo ef.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â 2 Corinthiaid 5:11-21