Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Corinthiaid 2

2
1Penderfynais beidio â dod atoch unwaith eto mewn tristwch. 2Oherwydd os wyf fi'n eich tristáu, pwy fydd yna i'm llonni i ond y sawl a wnaed yn drist gennyf fi? 3Ac ysgrifennais y llythyr hwnnw rhag imi ddod atoch, a chael tristwch gan y rhai a ddylai roi llawenydd imi. Y mae gennyf hyder amdanoch chwi oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwithau i gyd. 4Oherwydd ysgrifennais atoch o ganol gorthrymder mawr a gofid calon, ac mewn dagrau lawer, nid i'ch tristáu chwi ond er mwyn ichwi wybod mor helaeth yw'r cariad sydd gennyf tuag atoch.
Maddeuant i'r Troseddwr
5Os yw rhywun wedi peri tristwch, nid i mi y gwnaeth hynny, ond i chwi i gyd—i raddau, beth bynnag, rhag i mi or-ddweud. 6Digon i'r fath un y gosb hon a osodwyd arno gan y mwyafrif, 7a'ch gwaith chwi bellach yw maddau iddo a'i ddiddanu, rhag iddo gael ei lethu gan ormod o dristwch. 8Am hynny yr wyf yn eich cymell i adfer eich cariad tuag ato. 9Oherwydd f'amcan wrth ysgrifennu oedd eich gosod dan brawf, i weld a ydych yn ufudd ym mhob peth. 10Y sawl yr ydych chwi'n maddau rhywbeth iddo, yr wyf fi'n maddau iddo hefyd. A'r hyn yr wyf fi wedi ei faddau, os oedd gennyf rywbeth i'w faddau, fe'i maddeuais er eich mwyn chwi yng ngolwg Crist, 11rhag i Satan gael mantais arnom, oherwydd fe wyddom yn dda am ei ddichellion ef.
Pryder Paul, a'i Ryddhad
12Pan ddeuthum i Troas i bregethu Efengyl Crist, er bod drws wedi ei agor i'm gwaith yn yr Arglwydd, 13ni chefais lonydd i'm hysbryd am na ddeuthum o hyd i'm brawd Titus. Felly cenais yn iach iddynt, a chychwyn am Facedonia.
14Ond i Dduw y bo'r diolch, sydd bob amser yn ein harwain ni yng Nghrist yng ngorymdaith ei fuddugoliaeth ef, ac sydd ym mhob man, trwom ni, yn taenu ar led bersawr yr adnabyddiaeth ohono.#2:14 Neu, y wybodaeth amdano. 15Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, i'r rhai sydd ar lwybr iachawdwriaeth ac i'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth; 16i'r naill, arogl marwol yn arwain i farwolaeth; i'r lleill, persawr bywiol yn arwain i fywyd. Pwy sydd ddigonol i'r gwaith hwn? 17Oherwydd nid pedlera gair Duw yr ydym ni fel y gwna cynifer, ond llefaru fel dynion didwyll, fel cenhadon Duw, a hynny yng ngŵydd Duw, yng Nghrist.

Dewis Presennol:

2 Corinthiaid 2: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda