Pan glywodd brenhines Sheba am fri Solomon, daeth i Jerwsalem i'w brofi â chwestiynau caled. Cyrhaeddodd gyda gosgordd niferus iawn—camelod yn cludo peraroglau a stôr fawr o aur a gemau. Pan ddaeth hi at Solomon, dywedodd wrtho'r cwbl oedd ar ei meddwl, ac atebodd yntau bob un o'i chwestiynau; nid oedd dim yn rhy dywyll i Solomon ei esbonio iddi. A phan welodd brenhines Sheba ddoethineb Solomon, a'r tŷ a adeiladodd, ac arlwy ei fwrdd, eisteddiad ei swyddogion, gwasanaeth ei weision a'i drulliaid yn eu lifrai, a'i esgynfa i fyny i dŷ'r ARGLWYDD, diffygiodd ei hysbryd. Addefodd wrth y brenin, “Gwir oedd yr hyn a glywais yn fy ngwlad amdanat ti a'th ddoethineb. Eto nid oeddwn yn credu'r hanes nes imi ddod a gweld â'm llygaid fy hun—ac wele, ni ddywedwyd wrthyf mo'r hanner am dy ddoethineb enfawr; yr wyt yn tra rhagori ar yr hyn a glywais. Gwyn fyd dy wŷr, y gweision hyn sy'n gweini'n feunyddiol arnat ac yn clywed dy ddoethineb. Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a'th hoffodd di ddigon i'th osod ar ei orseddfainc yn frenin iddo. Am i'th Dduw garu Israel a'i sefydlu am byth, y mae wedi dy wneud di'n frenin arnynt, i weinyddu barn a chyfiawnder.” Yna rhoddodd hi i'r brenin chwe ugain talent o aur a llawer iawn o beraroglau a gemau. Ni fu erioed y fath beraroglau â'r rhai a roddodd brenhines Sheba i'r Brenin Solomon.
Darllen 2 Cronicl 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Cronicl 9:1-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos