2 Cronicl 3
3
Dechrau Adeiladu'r Deml
1 Bren. 6:1–38; 7:15–22
1Dechreuodd Solomon adeiladu tŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem ar Fynydd Moreia, lle'r oedd yr ARGLWYDD wedi ymddangos i'w dad Dafydd. Yr oedd ar lawr dyrnu Ornan y Jebusiad, y lle a baratowyd gan Ddafydd. 2Dechreuodd adeiladu ar yr ail ddydd o'r ail fis ym mhedwaredd flwyddyn ei deyrnasiad. 3Dyma fesurau'r sylfeini a osododd Solomon wrth adeiladu tŷ Dduw: yr hyd, yn ôl yr hen fesur, yn drigain cufydd, a'r lled yn ugain cufydd. 4Yr oedd y cyntedd o flaen y tŷ yr un hyd â lled y tŷ, ugain cufydd, a'i uchder yn ugain cufydd#3:4 Felly Fersiynau. Hebraeg, yn gant ac ugain.; ac fe'i goreurodd oddi mewn ag aur pur. 5Byrddiodd y brif gafell â ffynidwydd, a'i thaenu ag aur coeth, gyda cherfiadau o balmwydd a chadwynau arno. 6Addurnodd y gafell â meini gwerthfawr i'w harddu, gan ddefnyddio aur o Parfaim. 7Taenodd drawstiau, rhiniogau, parwydydd a drysau'r gafell ag aur, a cherfio cerwbiaid ar y parwydydd.
8Fe wnaeth gafell y cysegr sancteiddiaf yr un hyd â lled y tŷ, ugain cufydd, ac yn ugain cufydd o led, a'i thaenu â chwe chan talent o aur coeth. 9Yr oedd yr hoelion aur yn pwyso hanner can sicl. 10Taenodd y goruwchystafelloedd hefyd ag aur. Yng nghafell y cysegr sancteiddiaf fe wnaeth ddau gerwb pren#3:10 Felly Groeg. Hebraeg yn aneglur. a'u goreuro. 11Ugain cufydd oedd hyd adenydd y cerwbiaid; yr oedd aden un ohonynt yn bum cufydd ac yn cyffwrdd pared y gafell, a'r aden arall yn bum cufydd ac yn cyffwrdd aden yr ail gerwb. 12Yr oedd aden yr ail gerwb yn bum cufydd ac yn cyffwrdd pared y gafell, a'r aden arall yn bum cufydd ac yn cydio wrth aden y cerwb cyntaf. 13Yr oedd adenydd y cerwbiaid hyn yn ymestyn ugain cufydd. Yr oedd y cerwbiaid hyn yn sefyll ar eu traed yn wynebu at i mewn. 14Gwnaeth y llen o borffor ac ysgarlad, sidan glas a lliain main, gyda brodwaith o gerwbiaid arni. 15O flaen y gafell gosododd ddwy golofn o bymtheg cufydd ar hugain o hyd, a chnap o bum cufydd ar ben pob un. 16Gwnaeth rwydwaith ar ffurf cadwyn#3:16 Tebygol. Hebraeg, rwydwaith yn y gafell. a'i osod ar ben y colofnau, a chant o bomgranadau i'w addurno. 17Gosododd y colofnau o flaen y deml, un ar y dde a'r llall ar y chwith; fe alwodd yr un ar y dde yn Jachin a'r un ar y chwith yn Boas.
Dewis Presennol:
2 Cronicl 3: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004