Ni fydd raid i chwi ymladd yn y frwydr hon; safwch yn llonydd yn eich lle, ac fe welwch y fuddugoliaeth a rydd yr ARGLWYDD ichwi, O Jwda a Jerwsalem. Peidiwch ag ofni na digalonni; ewch allan yn eu herbyn yfory, a bydd yr ARGLWYDD gyda chwi.” Yna fe ymgrymodd Jehosaffat i'r llawr, a syrthiodd holl Jwda a thrigolion Jerwsalem o flaen yr ARGLWYDD a'i addoli. Yna safodd y Lefiaid oedd yn perthyn i'r Cohathiaid a'r Corahiaid i foliannu'r ARGLWYDD, Duw Israel, â bloedd uchel. Felly, codasant yn fore a mynd i anialwch Tecoa. Fel yr oeddent yn cychwyn, safodd Jehosaffat a dweud, “Gwrandewch arnaf fi, Jwda a thrigolion Jerwsalem. Ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD eich Duw, ac fe fyddwch yn ddiogel; credwch yn ei broffwydi, ac fe lwyddwch.” Wedi ymgynghori â'r bobl, penododd gantorion i foli'r ARGLWYDD, ac i ganu mawl i brydferthwch ei sancteiddrwydd, wrth fynd allan ar flaen y fyddin. Dywedasant, “Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd y mae ei gariad hyd byth.” Fel yr oeddent yn dechrau canu a moli, gosododd yr ARGLWYDD gynllwyn yn erbyn yr Ammoniaid a'r Moabiaid a gwŷr Mynydd Seir, a oedd yn ymosod ar Jwda, a chawsant eu gorchfygu. Trodd yr Ammoniaid a'r Moabiaid i ymosod ar drigolion Mynydd Seir, a'u difa'n llwyr; ac wedi iddynt eu difodi hwy aethant ymlaen i ddifetha'i gilydd. Pan gyrhaeddodd Jwda wylfa ger yr anialwch, a throi i edrych ar y fintai, gwelsant gyrff y meirw ar y llawr ym mhobman; nid oedd neb wedi dianc.
Darllen 2 Cronicl 20
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Cronicl 20:17-24
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos