Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Cronicl 14

14
Y Brenin Asa yn Gorchfygu'r Ethiopiaid
1Pan fu farw Abeia, a'i gladdu yn Ninas Dafydd, daeth ei fab Asa yn frenin yn ei le. Yn ystod ei deyrnasiad ef cafodd y wlad lonydd am ddeng mlynedd. 2Gwnaeth Asa yr hyn oedd dda ac uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw. 3Symudodd ymaith allorau'r duwiau dieithr a'r uchelfeydd, a dryllio'r colofnau a chwalu delwau Asera. 4Anogodd Jwda i geisio ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid a chadw'r gyfraith a'r gorchmynion, 5ac fe symudodd ymaith o holl ddinasoedd Jwda yr uchelfeydd a'r allorau. Cafodd y deyrnas lonydd yn ei oes ef. 6Adeiladodd ddinasoedd caerog yn Jwda tra oedd y wlad yn cael llonydd, ac ni fu rhyfel yn ei erbyn yn ystod y blynyddoedd hynny am fod yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch iddo. 7Dywedodd wrth Jwda, “Gadewch i ni adeiladu'r dinasoedd hyn a'u hamgylchu â muriau gyda thyrau, a dorau a barrau. Y mae'r wlad yn dal yn agored o'n blaen am i ni geisio'r ARGLWYDD ein Duw. Yr ydym ni wedi ei geisio ef, ac y mae yntau wedi rhoi heddwch i ni oddi amgylch.” Felly, adeiladodd y bobl a llwyddo.
8Yr oedd gan Asa fyddin o dri chan mil o wŷr Jwda yn dwyn tarian a gwaywffon, a dau gant a phedwar ugain mil o wŷr Benjamin yn dwyn tarian a thynnu bwa; yr oeddent oll yn wroniaid. 9Daeth Sera yr Ethiopiad yn eu herbyn gyda byddin o filiwn, a thri chant o gerbydau. 10Pan gyrhaeddodd Maresa, daeth Asa allan yn ei erbyn, a pharatoesant i ymladd yn nyffryn Seffatha, yn ymyl Maresa. 11Galwodd Asa ar yr ARGLWYDD ei Dduw a dweud, “O ARGLWYDD, nid oes neb fel ti i gynorthwyo'r gwan yn erbyn y cryf; cynorthwya ni, O ARGLWYDD ein Duw, oherwydd yr ydym yn ymddiried ynot, ac yn dy enw di y daethom yn erbyn y dyrfa hon. O ARGLWYDD, ein Duw ni wyt ti; na fydded i neb gystadlu â thi.” 12Felly, gorchfygodd yr ARGLWYDD yr Ethiopiaid o flaen Asa a Jwda. Fe ffoesant, 13gydag Asa a'i fyddin yn eu herlid, hyd at Gerar, lle syrthiodd cymaint ohonynt o flaen yr ARGLWYDD a'i fyddin fel na allent adennill eu nerth. 14Casglodd gwŷr Jwda anrhaith mawr iawn, a choncro'r holl ddinasoedd o gwmpas Gerar, am fod ofn yr ARGLWYDD arnynt. Anrheithiasant yr holl ddinasoedd am fod ysbail mawr iawn ynddynt. 15Ymosodasant hefyd ar gorlannau'r anifeiliaid a chario ymaith lawer o ddefaid a chamelod, ac yna dychwelyd i Jerwsalem.

Dewis Presennol:

2 Cronicl 14: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda