Llawenhewch bob amser. Gweddïwch yn ddi-baid. Ym mhob dim rhowch ddiolch, oherwydd hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi. Peidiwch â diffodd yr Ysbryd; peidiwch â dirmygu proffwydoliaethau. Ond rhowch brawf ar bob peth, a glynwch wrth yr hyn sydd dda. Ymgadwch rhag pob math o ddrygioni. Bydded i Dduw'r tangnefedd ei hun eich sancteiddio chwi yn gyfan gwbl, a chadw eich ysbryd a'ch enaid a'ch corff yn gwbl iach a di-fai hyd ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist! Y mae'r hwn sy'n eich galw yn ffyddlon, ac fe gyflawna ef hyn.
Darllen 1 Thesaloniaid 5
Gwranda ar 1 Thesaloniaid 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Thesaloniaid 5:16-24
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos