Ymladdodd y Philistiaid, a threchwyd Israel, a ffodd pawb adref. Bu lladdfa fawr iawn, a syrthiodd deng mil ar hugain o wŷr traed Israel. Hefyd cymerwyd arch Duw, a bu farw Hoffni a Phinees, dau fab Eli. Y diwrnod hwnnw rhedodd un o wŷr Benjamin o'r frwydr a chyrraedd Seilo â'i ddillad wedi eu rhwygo a phridd ar ei ben. Pan ddaeth, dyna lle'r oedd Eli yn eistedd ar sedd gerllaw'r ffordd yn disgwyl, am ei fod yn bryderus iawn am arch Duw. Pan ddaeth y dyn a chyhoeddi'r newydd yn y ddinas, bu llefain drwy'r ddinas. A phan glywodd Eli sŵn y llefain, holodd, “Beth yw'r cynnwrf yma?” Yna brysiodd y dyn, a dod ac adrodd yr hanes wrth Eli. Yr oedd Eli'n naw deg ac wyth oed, a'i lygaid wedi pylu fel na fedrai weld. A dywedodd y dyn wrth Eli, “Myfi sydd wedi dod o'r frwydr; heddiw y ffois o'r gad.” Yna gofynnodd iddo, “Beth yw'r newydd, fy machgen?” Atebodd y cennad, “Ffodd Israel o flaen y Philistiaid, a bu lladdfa fawr ymysg y bobl hefyd; y mae dy ddau fab, Hoffni a Phinees wedi marw, ac arch Duw wedi ei chymryd.” Pan soniodd am arch Duw, syrthiodd Eli yn wysg ei gefn oddi ar y sedd gerllaw'r porth, a thorri ei wddf a marw, oherwydd yr oedd yn hen ac yn ddyn trwm. Yr oedd wedi barnu Israel am ddeugain mlynedd.
Darllen 1 Samuel 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Samuel 4:10-18
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos