Ymladdodd y Philistiaid yn erbyn yr Israeliaid, a ffodd yr Israeliaid rhag y Philistiaid, a syrthio'n glwyfedig ar Fynydd Gilboa. Daliodd y Philistiaid Saul a'i feibion, a lladd Jonathan, Abinadab a Malcisua, meibion Saul. Aeth y frwydr yn galed yn erbyn Saul; daeth y dynion oedd yn saethu â bwâu o hyd iddo, a chlwyfwyd ef yn ddifrifol gan y saethwyr. Yna dywedodd Saul wrth ei gludydd arfau, “Tyn dy gleddyf a thrywana fi, rhag i'r rhai dienwaededig hyn ddod a'm trywanu a'm gwaradwyddo.” Nid oedd ei gludydd arfau'n fodlon, oherwydd yr oedd ofn mawr arno; felly cymerodd Saul y cleddyf a syrthio arno. Pan welodd y cludydd arfau fod Saul wedi marw, syrthiodd yntau ar ei gleddyf, a marw gydag ef. Felly bu farw Saul a'i dri mab a'i gludydd arfau yr un diwrnod â'i gilydd.
Darllen 1 Samuel 31
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Samuel 31:1-6
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos