Un noswaith yr oedd Eli yn gorwedd yn ei le, ac yr oedd ei lygaid wedi dechrau pylu ac yntau'n methu gweld. Nid oedd lamp Duw wedi diffodd eto, ac yr oedd Samuel yn cysgu yn nheml yr ARGLWYDD, lle'r oedd arch Duw. Yna galwodd yr ARGLWYDD ar Samuel. Dywedodd yntau, “Dyma fi.” Rhedodd at Eli a dweud, “Dyma fi, roeddit yn galw arnaf.” Atebodd ef, “Nac oeddwn, dos yn ôl i orwedd.” Aeth yntau a gorwedd. Yna galwodd yr ARGLWYDD eto, “Samuel!” Cododd Samuel a mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, roeddit yn fy ngalw.” Ond dywedodd ef, “Nac oeddwn, fy machgen, dos yn ôl i orwedd.” Yr oedd hyn cyn i Samuel adnabod yr ARGLWYDD, a chyn bod gair yr ARGLWYDD wedi ei ddatguddio iddo. Galwodd yr ARGLWYDD eto'r drydedd waith, “Samuel!” A phan gododd a mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, roeddit yn galw arnaf,” deallodd Eli mai'r ARGLWYDD oedd yn galw'r bachgen. Felly dywedodd Eli wrth Samuel, “Dos i orwedd, ac os gelwir di eto, dywed tithau, ‘Llefara, ARGLWYDD, canys y mae dy was yn gwrando’.” Aeth Samuel a gorwedd yn ei le. Yna daeth yr ARGLWYDD a sefyll a galw fel o'r blaen, “Samuel! Samuel!” A dywedodd Samuel, “Llefara, canys y mae dy was yn gwrando.”