Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 26

26
Dafydd yn Arbed Bywyd Saul Eto
1Daeth y Siffiaid at Saul i Gibea a dweud, “Onid yw Dafydd yn llechu ym mryn Hachila gyferbyn â Jesimon?” 2Aeth Saul ar unwaith i lawr i ddiffeithwch Siff, a thair mil o wŷr dewisol Israel gydag ef, i chwilio am Ddafydd yno. 3Gwersyllodd Saul ar y briffordd ym mryn Hachila gyferbyn â Jesimon, tra oedd Dafydd yn aros yn yr anialwch. 4Pan welodd Dafydd fod Saul yn dod i'r anialwch ar ei ôl, anfonodd ysbiwyr a chael sicrwydd fod Saul wedi dod. 5Aeth Dafydd ar unwaith i'r man lle'r oedd Saul yn gwersyllu, a gweld lle'r oedd ef a'i gadfridog Abner fab Ner yn cysgu. Yr oedd Saul yn cysgu yng nghanol y gwersyll, a'r milwyr yn gwersyllu o'i gwmpas. 6Troes Dafydd a gofyn i Ahimelech yr Hethiad ac Abisai fab Serfia, brawd Joab, “Pwy a ddaw i lawr gyda mi i'r gwersyll at Saul?” Atebodd Abisai, “Fe ddof fi gyda thi.” 7Aeth Dafydd ac Abisai i blith y milwyr liw nos, a dyna lle'r oedd Saul yn gorwedd ac yn cysgu yn y canol, a'i waywffon wedi ei gwthio i'r ddaear yn ymyl ei ben, ac Abner a'r milwyr yn gorwedd o'i amgylch. 8Dywedodd Abisai wrth Ddafydd, “Y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi dy elyn heddiw yn dy law; gad imi ei drywanu i'r ddaear â'r waywffon ag un ergyd; ni fydd angen ail.” 9Ond dywedodd Dafydd wrth Abisai, “Paid â'i ladd. Pwy a fedr estyn llaw yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD a bod yn ddieuog?” 10Ac ychwanegodd Dafydd, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, bydd yr ARGLWYDD yn sicr o'i daro; un ai fe ddaw ei amser, a bydd farw, neu ynteu fe â i frwydr a cholli ei fywyd. 11Yr ARGLWYDD a'm gwaredo rhag i mi estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD. Cymer di y waywffon sydd wrth ei ben, a'i gostrel ddŵr, ac fe awn.” 12Cymerodd Dafydd y waywffon a'r gostrel ddŵr oedd yn ymyl pen Saul, ac ymaith â hwy heb i neb weld na gwybod na deffro. Yr oedd pawb yn cysgu, am i'r ARGLWYDD anfon trymgwsg arnynt. 13Dringodd Dafydd trwy'r bwlch a sefyll draw ar gopa'r mynydd, â chryn bellter rhyngddo a hwy. 14Yna gwaeddodd Dafydd ar y milwyr, ac ar Abner fab Ner, a dweud, “Pam nad wyt ti'n ateb, Abner fab Ner?” Atebodd Abner, “Pwy wyt ti, sy'n gweiddi ar y brenin?” 15Ac meddai Dafydd wrth Abner, “Onid wyt ti'n ddyn? Pwy sydd debyg i ti yn Israel? Pam ynteu na fyddit wedi gwarchod dy feistr, y brenin, pan ddaeth rhywun i'w ladd? 16Nid da yw'r peth hwn a wnaethost; cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr ydych yn wir yn haeddu marw am beidio â gwarchod eich meistr, eneiniog yr ARGLWYDD. Edrych yn awr; ple mae gwaywffon y brenin, a'r gostrel ddŵr oedd wrth ei ben?” 17Adnabu Saul lais Dafydd, a dywedodd, “Ai dy lais di ydyw, fy mab Dafydd?” Atebodd Dafydd, “Ie, f'arglwydd frenin.” 18Ychwanegodd, “Pam y mae f'arglwydd yn erlid ei was? Beth a wneuthum, a pha ddrwg sydd ynof? 19Gwrandawed f'arglwydd frenin yn awr ar eiriau ei was. Os yr ARGLWYDD sydd wedi dy annog i'm herbyn, derbynied offrwm; ond os bodau meidrol, bydded iddynt fod dan felltith gerbron yr ARGLWYDD, am iddynt fy ngyrru allan heddiw rhag cael fy rhan yn etifeddiaeth yr ARGLWYDD, a dweud, ‘Dos, addola dduwiau eraill.’ 20Paid â gadael i'm gwaed ddisgyn i'r ddaear allan o bresenoldeb yr ARGLWYDD; oherwydd fe ddaeth brenin Israel allan i geisio chwannen, fel un yn hela petrisen mynydd.” 21Ac meddai Saul, “Yr wyf ar fai; tyrd yn ôl, fy mab Dafydd, oherwydd ni wnaf niwed iti eto, am i'm bywyd fod yn werthfawr yn dy olwg heddiw. Bûm yn ynfyd, a chyfeiliornais yn enbyd.” 22Yna atebodd Dafydd, “Dyma'r waywffon, O frenin; gad i un o'r llanciau ddod drosodd i'w chymryd. 23Y mae'r ARGLWYDD yn talu'n ôl i bob un am ei gyfiawnder a'i ffyddlondeb; oherwydd fe roddodd yr ARGLWYDD di yn fy llaw heddiw, ond nid oeddwn am estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD. 24Fel y bu dy einioes di yn werthfawr yn fy ngolwg i heddiw, bydded f'einioes innau yn werthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'm hachub o bob cyni.” 25Dywedodd Saul wrth Ddafydd, “Bendith arnat, fy mab Dafydd; fe wnei di orchestion a llwyddo.” Wedi hynny aeth Dafydd i ffwrdd, a dychwelodd Saul adref.

Dewis Presennol:

1 Samuel 26: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda