Pan ddaeth Saul yn ôl o ymlid y Philistiaid, dywedwyd wrtho fod Dafydd yn niffeithwch En-gedi. Felly cymerodd Saul dair mil o wŷr wedi eu dewis allan o Israel gyfan, a mynd i chwilio am Ddafydd a'i wŷr ar hyd copa creigiau'r geifr gwylltion. Pan ddaeth at gorlannau'r defaid ar y ffordd, yr oedd yno ogof, ac aeth Saul i mewn i esmwytho'i gorff; ond yr oedd Dafydd a'i wŷr yno ym mhen draw'r ogof. Ac meddai gwŷr Dafydd wrtho, “Dyma'r diwrnod y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt y byddai'n rhoi dy elyn yn dy law, a chei wneud iddo beth a fynni.” Cododd Dafydd yn ddistaw a thorrodd gwr y fantell oedd am Saul. Ond wedyn pigodd cydwybod Dafydd ef, am iddo dorri cwr mantell Saul, a dywedodd wrth ei ddynion, “Yr ARGLWYDD a'm gwared rhag imi wneud y fath beth i'm harglwydd, eneiniog yr ARGLWYDD, ac estyn llaw yn ei erbyn, oherwydd eneiniog yr ARGLWYDD yw.” Ataliodd Dafydd ei wŷr â'r geiriau hyn rhag iddynt ymosod ar Saul. Pan ymadawodd Saul â'r ogof a mynd i'w daith, aeth Dafydd allan o'r ogof a galw ar ei ôl a dweud, “F'arglwydd frenin!” A phan edrychodd Saul yn ôl, plygodd Dafydd â'i wyneb at y llawr ac ymgrymu. Yna dywedodd Dafydd wrth Saul, “Pam y gwrandewaist ar eiriau'r dynion sy'n dweud fod Dafydd yn ceisio niwed i ti? Heddiw fe weli â'th lygaid dy hun i'r ARGLWYDD dy roi yn fy llaw heddiw yn yr ogof; a dywedwyd wrthyf am dy ladd, ond trugarheais wrthyt a dweud, ‘Nid estynnaf fy llaw yn erbyn f'arglwydd, oherwydd eneiniog yr ARGLWYDD yw.’ Edrych, fy nhad, ie, edrych, dyma gwr dy fantell yn fy llaw. Gan imi dorri cwr dy fantell heb dy ladd, fe ddylit wybod a gweld nad oedd dim malais na gwrthryfel ynof. Ni wneuthum gam â thi, ond eto yr wyt yn ymlid ar fy ôl i'm dal. Bydded i'r ARGLWYDD farnu rhyngom a dial arnat, ond ni fydd fy llaw i arnat. Fel y dywed yr hen ddihareb, ‘O'r drygionus y daw drygioni.’ Ond ni fydd fy llaw i arnat. Ar ôl pwy yr aeth brenin Israel? Pwy wyt ti'n ei ymlid? Ci marw! Chwannen! Fe gaiff yr ARGLWYDD fod yn ddyfarnwr a barnu rhyngom a'n gilydd; caiff ef chwilio a dadlau f'achos a'm rhyddhau o'th law.”
Wedi i Ddafydd orffen llefaru fel hyn wrth Saul, meddai Saul: “Dafydd, fy mab, ai dy lais di yw hwn?” Yna fe dorrodd allan i wylo. Ac meddai wrth Ddafydd, “Yr wyt ti yn fwy cyfiawn na mi, oherwydd yr wyt ti wedi talu da i mi, a minnau wedi talu drwg i ti. Ac yr wyt wedi dangos mor dda fuost tuag ataf heddiw, pan oedd yr ARGLWYDD wedi fy rhoi yn dy law, a thithau'n ymatal rhag fy lladd. Pan fydd rhywun yn dod ar warthaf ei elyn, a yw'n ei adael yn rhydd? Bydded i'r ARGLWYDD dalu'n ôl iti'n hael am yr hyn a wnaethost imi heddiw. Mi wn, bellach, mai ti sydd i fod yn frenin, ac y bydd teyrnas Israel yn llwyddo danat; tynga imi'n awr yn enw'r ARGLWYDD, na fyddi'n difa fy hil ar fy ôl nac yn dileu fy enw o'm teulu.” Tyngodd Dafydd i Saul. Yna aeth Saul adref, a Dafydd a'i wŷr i fyny'n ôl i'r lloches.