Dihangodd Dafydd oddi yno i ogof Adulam, a phan glywodd ei frodyr a'i deulu, aethant yno ato. A dyma bawb oedd mewn helbul neu ddyled, neu wedi chwerwi, yn ymgasglu ato. Aeth ef yn ben arnynt, ac yr oedd tua phedwar cant ohonynt gydag ef. Oddi yno aeth Dafydd i Mispe yn Moab, a dweud wrth frenin Moab, “Gad i'm tad a'm mam ddod atat, nes y byddaf yn gwybod beth a wna Duw imi.” Felly gadawodd hwy gyda brenin Moab, a buont yn aros yno cyhyd ag y bu Dafydd yn ei loches. Yna dywedodd y proffwyd Gad wrth Ddafydd, “Paid ag aros yn y lloches, dos yn ôl i dir Jwda.” Felly aeth Dafydd i Goed Hereth.
Darllen 1 Samuel 22
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Samuel 22:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos