Ac meddai Dafydd, “Nid oes debyg iddo; rho ef imi.” Y diwrnod hwnnw ymadawodd Dafydd, ac er mwyn ffoi oddi wrth Saul, aeth at Achis brenin Gath. Gofynnodd gweision Achis iddo, “Onid hwn yw Dafydd, brenin y wlad? Onid am hwn y maent yn canu wrth ddawnsio, “ ‘Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiynau’?” Cymerodd Dafydd y geiriau hyn at ei galon, ac ofnodd rhag Achis brenin Gath. Newidiodd ei ymddygiad o'u blaen, a dechrau ymddwyn fel ynfytyn yn eu mysg, a chripio drysau'r porth, a glafoerio hyd ei farf. Ac meddai Achis wrth ei weision, “Gallwch weld bod y dyn yn wallgof; pam y daethoch ag ef ataf fi? A wyf yn brin o ynfydion, fel eich bod yn dod â hwn o'm blaen i ynfydu? A ddaw hwn i'm tŷ?”
Darllen 1 Samuel 21
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Samuel 21:10-15
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos