Daeth gŵr Duw at Eli a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Oni'm datguddiais fy hun i'th dylwyth pan oeddent yn yr Aifft yn gaethion yn nhŷ Pharo? Fe'u dewisais o holl lwythau Israel i fod yn offeiriaid i mi, i offrymu ar fy allor a llosgi arogldarth a gwisgo effod o'm blaen, a rhoddais i'th dylwyth holl offrymau llosg yr Israeliaid. Pam yr ydych yn llygadu fy aberth a chwennych fy offrwm a orchmynnais, ac anrhydeddu dy feibion yn fwy na mi, a'ch pesgi'ch hunain â'r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel?’
Darllen 1 Samuel 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Samuel 2:27-29
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos