Pan oedd Eli'n hen iawn, clywodd am y cwbl a wnâi ei feibion drwy Israel gyfan, a'u bod yn gorwedd gyda'r gwragedd oedd yn gweini wrth ddrws pabell y cyfarfod. Dywedodd wrthynt, “Pam y gwnewch bethau fel hyn? Rwy'n clywed gair drwg amdanoch gan y bobl yma i gyd. Na'n wir, fy meibion, nid da yw'r hanes y clywaf bobl Dduw yn ei ledaenu. Os yw un yn pechu yn erbyn rhywun arall, y mae Duw yn ganolwr, ond os pecha rhywun yn erbyn yr ARGLWYDD, at bwy y gellir apelio?” Ond gwrthod gwrando ar eu tad a wnaethant, oherwydd ewyllys yr ARGLWYDD oedd eu lladd.
Darllen 1 Samuel 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Samuel 2:22-25
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos