Dywedodd Saul wrth ei fab Jonathan a'i holl weision am ladd Dafydd. Ond yr oedd Jonathan fab Saul wedi mynd yn hoff iawn o Ddafydd, a dywedodd wrtho, “Y mae fy nhad Saul yn ceisio dy ladd di; bydd di'n ofalus ohonot dy hun bore yfory, ac ymguddia ac aros o'r golwg. Mi af finnau a sefyll yn ymyl fy nhad, allan yn ymyl y lle y byddi di, ac mi soniaf amdanat wrth fy nhad; ac os gwelaf unrhyw beth, mi ddywedaf wrthyt.” Siaradodd Jonathan o blaid Dafydd wrth ei dad Saul, a dweud wrtho, “Peidied y brenin â gwneud cam â'i was Dafydd, oherwydd ni wnaeth ef gam â thi; yn wir, bu ei weithredoedd o les mawr iti. Mentrodd ei fywyd i ladd y Philistiad hwnnw, a rhoddodd yr ARGLWYDD fuddugoliaeth fawr i Israel gyfan. Yr oeddit tithau'n gweld ac yn llawenychu; pam ynteu yr wyt am wneud cam ag un dieuog, a lladd Dafydd heb achos?” Gwrandawodd Saul ar ble Jonathan a thyngodd: “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni chaiff ei ladd.”
Darllen 1 Samuel 19
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Samuel 19:1-6
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos