Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 17:45-58

1 Samuel 17:45-58 BCND

Ond dywedodd Dafydd wrth y Philistiad, “Yr wyt ti'n dod ataf fi â chleddyf a gwaywffon a chrymgledd; ond yr wyf fi'n dod atat ti yn enw ARGLWYDD y Lluoedd, Duw byddin Israel, yr wyt ti wedi ei herio. Y dydd hwn bydd yr ARGLWYDD yn dy roi yn fy llaw; lladdaf di a thorri dy ben i ffwrdd, a rhoi celanedd llu'r Philistiaid heddiw i adar yr awyr a bwystfilod y ddaear, er mwyn i'r byd i gyd wybod fod Duw gan Israel, ac i'r holl gynulliad hwn wybod nad trwy gleddyf na gwaywffon y mae'r ARGLWYDD yn gwaredu, oherwydd yr ARGLWYDD biau'r frwydr, ac fe'ch rhydd chwi yn ein llaw ni.” Yna pan gychwynnodd y Philistiad tuag at Ddafydd, rhedodd Dafydd yn chwim ar hyd y rheng i gyfarfod y Philistiad; rhoddodd ei law yn y bag a chymryd carreg allan a'i hyrddio, a tharo'r Philistiad yn ei dalcen nes bod y garreg yn suddo i'w dalcen; syrthiodd yntau ar ei wyneb i'r llawr. Felly trechodd Dafydd y Philistiad â ffon dafl a charreg, a'i daro'n farw, heb fod ganddo gleddyf. Yna rhedodd Dafydd a sefyll uwchben y Philistiad; cydiodd yn ei gleddyf ef a'i dynnu o'r wain, a rhoi'r ergyd olaf iddo a thorri ei ben i ffwrdd. Pan welodd y Philistiaid fod eu harwr yn farw, ffoesant; a chododd gwŷr Israel a Jwda a bloeddio rhyfelgri ac ymlid y Philistiaid cyn belled â Gath a phyrth Ecron. A chwympodd celanedd y Philistiaid ar hyd y ffordd o Saaraim i Gath ac Ecron. Yna dychwelodd yr Israeliaid o ymlid y Philistiaid, ac ysbeilio eu gwersyll. Cymerodd Dafydd ben y Philistiad a'i ddwyn i Jerwsalem, ond gosododd ei arfau yn ei babell ei hun. Pan welodd Saul Ddafydd yn mynd allan i gyfarfod y Philistiad, gofynnodd i Abner, capten ei lu, “Mab i bwy yw'r bachgen acw, Abner?” Atebodd Abner, “Cyn wired â'th fod yn fyw, O frenin, ni wn i ddim.” A dywedodd y brenin, “Hola di mab i bwy yw'r llanc ifanc.” Felly pan gyrhaeddodd Dafydd yn ôl wedi iddo ladd y Philistiad, cymerodd Abner ef a'i ddwyn at Saul gyda phen y Philistiad yn ei law. Gofynnodd Saul, “Mab pwy wyt ti, fachgen?” A dywedodd Dafydd, “Mab dy was Jesse o Fethlehem.”