Dywedodd Saul wrth Ddafydd, “Ni fedri di fynd ac ymladd â'r Philistiad hwn, oherwydd llanc wyt ti ac yntau'n rhyfelwr o'i ieuenctid.” Ond dywedodd Dafydd wrth Saul, “Bugail ar ddefaid ei dad yw dy was; pan fydd llew neu arth yn dod ac yn cipio dafad o'r ddiadell, byddaf yn mynd ar ei ôl, yn ei daro, ac yn achub y ddafad o'i safn. Pan fydd yn codi yn fy erbyn i, byddaf yn cydio yn ei farf, yn ei drywanu, ac yn ei ladd. Mae dy was wedi lladd llewod ac eirth, a dim ond fel un ohonynt hwy y bydd y Philistiad dienwaededig hwn, am iddo herio byddin y Duw byw.” Ac ychwanegodd Dafydd, “Bydd yr ARGLWYDD a'm gwaredodd o afael y llew a'r arth yn sicr o'm hachub o afael y Philistiad hwn hefyd.” Dywedodd Saul, “Dos, a bydded yr ARGLWYDD gyda thi.”
Darllen 1 Samuel 17
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Samuel 17:33-37
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos