Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 17:1-30

1 Samuel 17:1-30 BCND

Casglodd y Philistiaid eu lluoedd i ryfel, ac ymgynnull yn Socho, a oedd yn perthyn i Jwda, a gosod eu gwersyll rhwng Socho ac Aseca yn Effes-dammim. Ymgynullodd Saul a'r Israeliaid hefyd, a gwersyllu yn nyffryn Ela a pharatoi i frwydro yn erbyn y Philistiaid. Safai'r Philistiaid ar dir uchel o un tu, ac Israel ar dir uchel o'r tu arall, gyda dyffryn rhyngddynt. O wersyll y Philistiaid daeth allan heriwr o'r enw Goliath, dyn o Gath, ac yn chwe chufydd a rhychwant o daldra. Yr oedd ganddo helm bres am ei ben, ac yr oedd wedi ei wisgo mewn llurig emog o bres, yn pwyso pum mil o siclau. Yr oedd coesarnau pres am ei goesau a chrymgledd pres rhwng ei ysgwyddau. Yr oedd paladr ei waywffon fel carfan gwehydd, a'i blaen yn chwe chan sicl o haearn. Yr oedd cludydd tarian yn cerdded o'i flaen. Safodd Goliath a gweiddi ar rengoedd Israel a dweud wrthynt, “Pam y dewch allan yn rhengoedd i frwydro? Onid Philistiad wyf fi, a chwithau'n weision i Saul? Dewiswch un ohonoch i ddod i lawr ataf fi. Os medr ef ymladd â mi a'm trechu, fe fyddwn ni yn weision i chwi; ond os medraf fi ei drechu ef, chwi fydd yn weision i ni, ac yn ein gwasanaethu.” Ychwanegodd y Philistiad, “Yr wyf fi heddiw yn herio rhengoedd Israel; dewch â gŵr, ynteu, inni gael ymladd â'n gilydd.” Pan glywodd Saul a'r Israeliaid y geiriau hyn gan y Philistiad, yr oeddent wedi eu parlysu gan ofn. Yr oedd Dafydd yn fab i Effratead o Fethlehem Jwda. Jesse oedd enw hwnnw, ac yr oedd ganddo wyth mab, ac erbyn dyddiau Saul yr oedd yn hen iawn. Yr oedd ei dri mab hynaf wedi dilyn Saul i'r rhyfel. Enwau'r tri o'i feibion a aeth i'r rhyfel oedd Eliab yr hynaf, Abinadab yr ail, a Samma y trydydd; Dafydd oedd yr ieuengaf. Aeth y tri hynaf i ganlyn Saul; ond byddai Dafydd yn mynd a dod oddi wrth Saul i fugeilio defaid ei dad ym Methlehem. Bob bore a hwyr am ddeugain diwrnod bu'r Philistiad yn dod ac yn sefyll i herio. Dywedodd Jesse wrth ei fab Dafydd, “Cymer effa o'r crasyd yma i'th frodyr, a'r deg torth hyn, a brysia â hwy i'r gwersyll at dy frodyr. Dos â'r deg cosyn gwyn yma i'r swyddog, ac edrych sut y mae hi ar dy frodyr, a thyrd â rhyw arwydd yn ôl oddi wrthynt.” Yr oedd Saul a hwythau ac Israel gyfan yn nyffryn Ela yn ymladd â'r Philistiaid. Trannoeth cododd Dafydd yn fore, a gadael y praidd gyda gofalwr, a chymryd ei bac a mynd fel yr oedd Jesse wedi gorchymyn iddo. Cyrhaeddodd y gwersyll fel yr oedd y fyddin yn mynd i'w rhengoedd ac yn bloeddio'r rhyfelgri. Yr oedd Israel a'r Philistiaid wedi trefnu eu lluoedd, reng am reng. Gadawodd Dafydd ei bac gyda gofalwr y gwersyll, a rhedeg i'r rheng a mynd i ofyn sut yr oedd ei frodyr. Tra oedd yn ymddiddan â hwy, dyna'r heriwr o'r enw Goliath, y Philistiad o Gath, yn dod i fyny o rengoedd y Philistiaid ac yn llefaru yng nghlyw Dafydd yr un geiriau ag o'r blaen. Pan welodd yr Israeliaid y dyn, ffoesant i gyd oddi wrtho mewn ofn, a dweud, “A welwch chwi'r dyn yma sy'n dod i fyny? I herio Israel y mae'n dod. Pe byddai unrhyw un yn ei ladd, byddai'r brenin yn ei wneud yn gyfoethog iawn, ac yn rhoi ei ferch iddo, ac yn rhoi rhyddfraint Israel i'w deulu.” Yna gofynnodd Dafydd i'r dynion oedd yn sefyll o'i gwmpas, “Beth a wneir i'r sawl fydd yn lladd y Philistiad acw, ac yn symud y sarhad oddi ar Israel? Oherwydd pwy yw'r Philistiad dienwaededig hwn, ei fod yn herio lluoedd y Duw byw?” Dywedodd y bobl yr un peth wrtho: “Fel hyn y gwneir i'r sawl fydd yn ei ladd ef.” Clywodd ei frawd hynaf Eliab ef yn siarad â'r dynion, a chollodd ei dymer â Dafydd a dweud, “Pam y daethost ti i lawr yma? Yng ngofal pwy y gadewaist yr ychydig ddefaid yna yn y diffeithwch? Mi wn dy hyfdra a'th fwriadau drwg—er mwyn cael gweld y frwydr y daethost ti draw yma.” Dywedodd Dafydd, “Beth wnes i? Onid gofyn cwestiwn?” Trodd draw oddi wrtho at rywun arall, a gofyn yr un peth, a'r bobl yn rhoi'r un ateb ag o'r blaen iddo.