Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 1:12-28

1 Samuel 1:12-28 BCND

Tra oedd hi'n parhau i weddïo gerbron yr ARGLWYDD, yr oedd Eli'n dal sylw ar ei genau. Gan mai siarad rhyngddi a hi ei hun yr oedd Hanna, dim ond ei gwefusau oedd yn symud, ac nid oedd ei llais i'w glywed. Tybiodd Eli ei bod yn feddw, a dywedodd wrthi, “Am ba hyd y byddi'n feddw? Ymysgwyd o'th win.” Atebodd Hanna, “Nage, syr, gwraig helbulus wyf fi; nid wyf wedi yfed gwin na diod gadarn; arllwys fy nghalon gerbron yr ARGLWYDD yr oeddwn. Paid â'm hystyried yn ddynes ofer, oherwydd o ganol fy nghŵyn a'm cystudd yr oeddwn yn siarad gynnau.” Atebodd Eli, “Dos mewn heddwch, a rhodded Duw Israel iti yr hyn a geisiaist ganddo.” Dywedodd hithau, “Bydded imi gael ffafr yn dy olwg.” Yna aeth i ffwrdd a bwyta, ac nid oedd mwyach yn drist. Bore trannoeth, wedi iddynt godi ac addoli'r ARGLWYDD, aethant yn ôl adref i Rama. Cafodd Elcana gyfathrach â'i wraig Hanna a chofiodd yr ARGLWYDD hi. Beichiogodd Hanna, ac ymhen amser geni mab a'i alw'n Samuel, oherwydd: “Gan yr ARGLWYDD y gofynnais amdano.” Aeth y gŵr Elcana a'i holl deulu i offrymu ei aberth blynyddol i'r ARGLWYDD, ac i dalu adduned. Nid aeth Hanna, ond dywedodd wrth ei gŵr, “Cyn gynted ag y bydd y bachgen wedi ei ddiddyfnu, af ag ef i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD, a chaiff aros yno am byth.” Dywedodd ei gŵr Elcana wrthi, “Gwna'r hyn sydd orau yn d'olwg; aros nes y byddi wedi ei ddiddyfnu, ond bydded i'r ARGLWYDD gyflawni d'addewid.” Felly arhosodd y wraig gartref a magu ei phlentyn nes ei ddiddyfnu. Wedi iddi ei ddiddyfnu, aeth ag ef i fyny gyda hi a chymryd ych teirblwydd ac effa o flawd a chostrel o win. Daeth ag ef yn fachgen ifanc i dŷ'r ARGLWYDD yn Seilo. Wedi iddynt ladd yr ych, daethant â'r llanc at Eli, a dywedodd hi, “Henffych well, syr! Myfi yw'r wraig oedd yn sefyll yma yn d'ymyl yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. Am y bachgen hwn yr oeddwn yn gweddïo, a rhoddodd yr ARGLWYDD imi'r hyn a ofynnais ganddo. Yr wyf finnau'n ei fenthyg i'r ARGLWYDD am ei oes. Un wedi ei fenthyg i'r ARGLWYDD yw.” Ymgrymasant yno o flaen yr ARGLWYDD.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â 1 Samuel 1:12-28