Yn olaf, bawb ohonoch, byddwch o'r un meddwl yn cydymdeimlo â'ch gilydd yn frawdol, yn dyner eich calon, yn ostyngedig eich ysbryd. Peidiwch â thalu drwg am ddrwg na sen am sen. I'r gwrthwyneb, bendithiwch! Oherwydd i hyn y cawsoch eich galw—er mwyn i chwi etifeddu bendith. Yng ngeiriau'r Ysgrythur: “Yr hwn sy'n ewyllysio caru bywyd a gweld dyddiau da, rhaid iddo atal ei dafod rhag drwg, a'i wefusau rhag llefaru celwydd; rhaid iddo droi oddi wrth ddrwg a gwneud da, ceisio heddwch a'i ddilyn; canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y cyfiawn, a'i glustiau'n agored i'w deisyfiad, ond y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni.” Felly, pwy a wna niwed ichwi os byddwch yn selog tros ddaioni? Ond hyd yn oed pe digwyddai ichwi ddioddef o achos cyfiawnder, gwyn eich byd! Peidiwch â'u hofni hwy, a pheidiwch â chymryd eich tarfu, ond sancteiddiwch Grist yn Arglwydd yn eich calonnau. Byddwch yn barod bob amser i roi ateb i bob un fydd yn ceisio gennych gyfrif am y gobaith sydd ynoch. Ond gwnewch hynny gydag addfwynder a pharchedig ofn, gan gadw eich cydwybod yn lân; ac yna, lle'r ydych yn awr yn cael eich sarhau, fe godir cywilydd ar y rhai sy'n dilorni eich ymarweddiad da yng Nghrist.
Darllen 1 Pedr 3
Gwranda ar 1 Pedr 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Pedr 3:8-16
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos