Gyfeillion annwyl, rwy'n deisyf arnoch, fel alltudion a dieithriaid, i ymgadw rhag y chwantau cnawdol sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid. Bydded eich ymarweddiad ymhlith y Cenhedloedd mor amlwg o dda nes iddynt hwy, lle y maent yn awr yn eich sarhau fel drwgweithredwyr, ogoneddu Duw yn nydd ei ymweliad ar gyfrif yr hyn a welant o'ch gweithredoedd da chwi. Ymostyngwch, er mwyn yr Arglwydd, i bob sefydliad dynol, p'run ai i'r ymerawdwr fel y prif awdurdod, ai i'r llywodraethwyr fel rhai a anfonir ganddo ef er cosb i ddrwgweithredwyr a chlod i weithredwyr daioni. Oherwydd hyn yw ewyllys Duw, i chwi trwy wneud daioni roi taw ar anwybodaeth ffyliaid. Rhaid ichwi fyw fel pobl rydd, eto peidio ag arfer eich rhyddid i gelu drygioni, ond bod fel caethweision Duw. Rhowch barch i bawb, carwch deulu'r ffydd, ofnwch Dduw, parchwch yr ymerawdwr.
Darllen 1 Pedr 2
Gwranda ar 1 Pedr 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Pedr 2:11-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos