Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 3:1-28

1 Brenhinoedd 3:1-28 BCND

Gwnaeth Solomon gynghrair â Pharo brenin yr Aifft trwy briodi ei ferch. Daeth â hi i Ddinas Dafydd i fyw nes iddo ddarfod adeiladu ei dŷ ei hun a thŷ'r ARGLWYDD, a'r mur o amgylch Jerwsalem. Yr oedd y bobl yn dal i aberthu mewn uchelfeydd, am nad oedd tŷ i enw'r ARGLWYDD eto wedi ei adeiladu. Yr oedd Solomon yn caru'r ARGLWYDD, gan rodio yn ôl deddfau ei dad Dafydd, ond yn aberthu ac yn arogldarthu mewn uchelfeydd. Aeth y brenin i aberthu i Gibeon. Honno oedd y brif uchelfa; mil o boethoffrymau a offrymai Solomon ar yr allor yno. Ymddangosodd yr ARGLWYDD i Solomon yn Gibeon mewn breuddwyd liw nos; a dywedodd DUW, “Gofyn beth bynnag a fynni gennyf.” Dywedodd Solomon, “Buost yn ffyddlon iawn i'm tad Dafydd, dy was, am iddo rodio gyda thi mewn gwirionedd a chyfiawnder a chywirdeb calon. Ie, parheaist yn ffyddlon iawn iddo, a rhoi iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc heddiw. Yn awr, O ARGLWYDD fy Nuw, gwnaethost dy was yn frenin yn lle fy nhad Dafydd, a minnau'n llanc ifanc, dibrofiad. Ac y mae dy was yng nghanol dy ddewis bobl, sy'n rhy niferus i'w rhifo na'u cyfrif. Felly rho i'th was galon ddeallus i farnu dy bobl, i ddirnad da a drwg; oherwydd pwy a ddichon farnu dy bobl luosog hyn?” Bu'n dderbyniol yng ngolwg yr ARGLWYDD i Solomon ofyn y peth hwn, a dywedodd Duw wrtho, “Oherwydd iti ofyn hyn, ac nid gofyn i ti dy hun flynyddoedd lawer, na chyfoeth, nac einioes dy elynion, ond gofyn deall wrth wrando achos, gwnaf yn ôl dy eiriau. Rhoddaf iti galon ddoeth a deallus, fel na bu dy fath o'th flaen, ac na chyfyd chwaith ar dy ôl. Rhoddaf hefyd iti yr hyn nis gofynnaist, sef cyfoeth a gogoniant, fel na bydd dy fath ymysg brenhinoedd, dy holl ddyddiau di. Ac os bydd iti rodio yn fy ffyrdd, a chadw fy neddfau a'm gorchmynion, fel y rhodiodd dy dad Dafydd, estynnaf dy ddyddiau hefyd.” Deffrôdd Solomon, a sylweddoli mai breuddwyd oedd. Pan ddaeth yn ôl i Jerwsalem, safodd o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD ac offrymodd boethoffrymau a heddoffrymau, a gwnaeth wledd i'w holl weision. Daeth dwy buteinwraig at y brenin a sefyll o'i flaen. Dywedodd y naill, “O f'arglwydd, roeddwn i a'r wraig hon yn byw yn yr un tŷ, ac esgorais ar blentyn yn y tŷ, a hithau yno. Tridiau wedi i mi esgor, esgorodd y wraig hon hefyd, heb neb ond ni'n dwy yn y tŷ. Bu farw plentyn y wraig hon yn y nos, am iddi orwedd arno; cododd hithau yn ystod y nos a chymryd fy mab o'm hymyl tra oeddwn i, dy lawforwyn, yn cysgu, a'i gymryd i'w chôl a gosod ei phlentyn marw yn fy nghôl i. Pan godais yn y bore i roi sugn i'm mab, yr oedd yn farw; ond wedi imi graffu arno yn y bore, nid hwnnw oedd y mab yr esgorais i arno.” Meddai'r wraig arall, “Na, fy mab i yw'r un byw; dy fab di yw'r un marw.” Yna, dyma'r gyntaf yn dweud, “Na, dy fab di yw'r marw; fy mab i yw'r byw.” Taeru felly y buont gerbron y brenin. Yna dywedodd y brenin, “Y mae'r naill yn dweud, ‘Hwn yw fy mab i, y byw; yr un marw yw dy fab di.’ Ac y mae'r llall yn dweud, ‘Na, dy fab di yw'r marw; fy mab i yw'r byw.’ ” Yna dywedodd y brenin, “Dewch â chleddyf imi.” Pan ddaethant â'r cleddyf gerbron y brenin, ebe'r brenin, “Rhannwch y bachgen byw yn ddau, a rhowch hanner i'r naill a hanner i'r llall.” Ond meddai'r wraig oedd piau'r plentyn byw wrth y brenin (oherwydd enynnodd ei thosturi tuag at ei baban), “O f'arglwydd, rhowch iddi hi y plentyn byw, a pheidiwch â'i ladd ar un cyfrif.” Ond dywedodd y llall, “Na foed yn eiddo i mi na thithau; rhannwch ef.” Atebodd y brenin, “Peidiwch â'i ladd; rhowch y plentyn byw i'r gyntaf; honno yw ei fam.” Clywodd holl Israel ddyfarniad y brenin, ac ofnasant ef, am eu bod yn gweld ynddo ddoethineb ddwyfol i weinyddu barn.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â 1 Brenhinoedd 3:1-28