Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 20

20
Rhyfel yn erbyn Syria
1Casglodd Ben-hadad brenin Syria ei holl lu, gyda meirch a cherbydau, a deuddeg ar hugain o frenhinoedd gydag ef, ac aeth i warchae ar Samaria a brwydro yn ei herbyn. 2Anfonodd negesyddion i'r ddinas at Ahab brenin Israel, 3a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed Ben-hadad: ‘Fi piau dy arian a'th aur, a hefyd dy wragedd a'th blant tecaf.’ ” 4Atebodd brenin Israel, “Fel y dywedi, f'arglwydd frenin; ti piau fi a phopeth a feddaf.” 5Ond daeth y negesyddion yn ôl drachefn a dweud, “Fel hyn y dywed Ben-hadad: ‘Anfonais atat a dweud, “Dy arian a'th aur, a hefyd dy wragedd a'th blant a roddi imi”; 6ond yr adeg yma yfory byddaf yn anfon fy ngweision atat i chwilio dy dŷ a thai dy weision, a chipio popeth dymunol yn dy olwg a'i ddwyn ymaith.’ ” 7Yna galwodd brenin Israel holl henuriaid y wlad a dweud, “Sylwch fel y mae hwn am fynnu helynt. Oherwydd pan anfonodd ataf am fy ngwragedd a'm plant, a'm harian a'm haur, nid oeddwn yn eu gomedd iddo.” 8Dywedodd yr henuriaid i gyd a'r holl bobl wrtho, “Paid â gwrando, a phaid â chytuno.” 9Yna dywedodd y brenin wrth negesyddion Ben-hadad, “Dywedwch wrth f'arglwydd frenin, ‘Gwnaf bopeth a hawliaist gan dy was y tro cyntaf, ond ni allaf wneud y peth hwn.’ ” Ymadawodd y negesyddion a mynd â'r ateb i Ben-hadad. 10Anfonodd hwnnw'n ôl a dweud, “Fel hyn y gwnelo'r duwiau i mi, a rhagor, os bydd llwch Samaria yn ddigon i wneud dyrnaid bob un i'r bobl sy'n fy nilyn.” 11Ond ateb brenin Israel oedd, “Dywedwch wrtho, ‘Peidied yr un sy'n codi arfau ag ymffrostio fel yr un sy'n eu rhoi i lawr.’ ” 12A phan glywodd Ben-hadad y dywediad hwn, ac yntau'n diota gyda'r brenhinoedd eraill yn y pebyll, dywedodd wrth ei weision, “Ymosodwch.” Ac ymosodasant ar y ddinas.
13Daeth rhyw broffwyd at Ahab brenin Israel a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘A weli di'r holl dyrfa fawr hon? Rhoddaf hi yn dy law heddiw, a chei wybod mai fi yw'r ARGLWYDD.’ ” 14Gofynnodd Ahab, “Trwy bwy?” Ac atebodd, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Trwy filwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau.’ ” Yna gofynnodd, “Pwy sydd i gychwyn y frwydr?” Ac meddai'r proffwyd, “Tydi.” 15Pan rifodd filwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau, yr oedd dau gant tri deg a dau ohonynt, ac yna rhifodd holl bobl Israel, ac yr oedd saith mil. 16Ac aethant allan ganol dydd, pan oedd Ben-hadad yn meddwi yn y pebyll gyda'r deuddeg brenin ar hugain oedd yn ei gynorthwyo. 17Daeth milwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau allan i ddechrau; ac anfonwyd neges at Ben-hadad fod dynion yn dod allan o Samaria. 18Dywedodd, “Prun bynnag ai ceisio heddwch ai ceisio rhyfel y maent, daliwch hwy yn fyw.” 19Parhau i ddod allan o'r ddinas a wnaeth milwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau, gyda'r fyddin i'w canlyn. 20Ac ymosododd pob un ar ei wrthwynebwr, nes i'r Syriaid ffoi, gyda'r Israeliaid ar eu gwarthaf; ond dihangodd Ben-hadad brenin Syria ar farch gyda gwŷr meirch. 21Aeth brenin Israel allan a tharo'r meirch a'r cerbydau, a gwneud lladdfa fawr ymhlith y Syriaid.
22Yna daeth y proffwyd at frenin Israel a dweud wrtho, “Dos i geisio ymgryfhau a phenderfynu'n ofalus beth a wnei, oherwydd gyda'r gwanwyn fe ddaw brenin Syria yn dy erbyn.”
Syria yn Ailymosod
23Dywedodd gweision brenin Syria wrtho, “Duwiau'r mynyddoedd yw eu duwiau hwy; dyna pam y buont yn drech na ni. Ond pe baem ni'n ymladd â hwy ar y gwastadedd, yn sicr fe'u trechem. 24Dyma a wnei: diswydda bob un o'r brenhinoedd hyn, gosod raglawiaid yn eu lle, 25a chasgl ynghyd fyddin debyg i'r un a gollaist, gyda march am farch a cherbyd am gerbyd. Gad inni ymladd â hwy ar y gwastadedd, ac yn sicr fe'u trechwn.” Cytunodd y brenin i wneud hynny.
26Yn y gwanwyn casglodd Ben-hadad y Syriaid i ryfela ag Israel, ac aeth i Affec. 27Yna galwyd yr Israeliaid i fyny, a darparu bwyd ar eu cyfer, ac aethant i'w gwrthsefyll. Yr oedd yr Israeliaid yn eu gwersyll gyferbyn â hwy fel dwy ddiadell fach o eifr, a'r Syriaid yn llenwi'r wlad. 28A daeth gŵr Duw at frenin Israel a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Am fod y Syriaid wedi dweud mai Duw mynydd-dir yw'r ARGLWYDD, ac nad yw'n Dduw gwastatir, yr wyf am roi'r holl dyrfa fawr hon yn dy law; a chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ” 29Bu'r naill yn gwersyllu gyferbyn â'r llall am wythnos; yna ar y seithfed dydd dechreuodd y frwydr, a thrawodd yr Israeliaid gan mil o wŷr traed y Syriaid mewn un dydd. 30Ffodd y gweddill i ddinas Affec, a chwympodd y mur ar y saith mil ar hugain ohonynt.
31Ffodd Ben-hadad hefyd i'r ddinas, a chyrraedd y gaer nesaf i mewn. Ac meddai ei weision wrtho, “Gwrando'n awr, clywsom fod brenhinoedd Israel yn frenhinoedd tirion. Gad inni wisgo sachliain a rhoi rhaffau am ein gyddfau, a mynd allan at frenin Israel; efallai yr arbed dy einioes.” 32A rhoesant sachliain am eu llwynau a rhaffau am eu gyddfau, a mynd at frenin Israel a dweud wrtho, “Mae dy was Ben-hadad yn dweud, ‘Arbed fy mywyd.’ ” Meddai yntau, “A yw'n fyw o hyd? Fy mrawd ydyw.” 33Yr oedd y dynion yn gwylio am arwydd, a buont yn gyflym i ddal ar ei eiriau, a dweud, “Ie, dy frawd Ben-hadad.” A dywedodd, “Ewch i'w nôl.” Pan ddaeth Ben-hadad allan ato, derbyniodd ef i'w gerbyd, 34a dywedodd Ben-hadad wrtho, “Dychwelaf y trefi a ddygodd fy nhad oddi ar dy dad; a chei osod marchnadau i ti dy hun yn Namascus, fel y gwnaeth fy nhad yn Samaria; rhyddha fi#20:34 Tebygol. Hebraeg, rhyddhaf di. ar yr amod hwn.” A gwnaeth Ahab gytundeb ag ef a'i ollwng yn rhydd.
Proffwyd yn Condemnio Ahab
35Yna dywedodd un o urdd y proffwydi wrth gyfaill iddo trwy air yr ARGLWYDD, “Taro fi'n awr.” Ond gwrthododd ei gyfaill ei daro. 36A dywedodd yntau wrtho, “Am iti wrthod ufuddhau i lais yr ARGLWYDD, bydd llew yn ymosod arnat pan ei oddi wrthyf.” Ac wedi iddo fynd oddi wrtho, cyfarfu llew ag ef ac ymosod arno. 37Yna cafodd y proffwyd ŵr arall a dweud, “Taro fi'n awr.” A thrawodd y gŵr hwnnw ef a'i glwyfo. 38Wedyn aeth y proffwyd a disgwyl am y brenin ar y ffordd, a chadach dros ei lygaid rhag iddo'i adnabod. 39Pan ddaeth y brenin heibio, llefodd arno a dweud, “Aeth dy was i ganol y frwydr, a dyna rywun yn dod ac yn trosglwyddo dyn imi ac yn dweud, ‘Edrych ar ôl y dyn yma; os bydd yn dianc, rhaid i ti gymryd ei le neu dalu talent o arian.’ 40Ond tra oedd dy was yn brysur hwnt ac yma, diflannodd y dyn.” Yna meddai brenin Israel wrtho, “Felly boed dy ddedfryd; tydi dy hun sydd wedi ei phennu.” 41Heb oedi dim, tynnodd yntau'r cadach oddi ar ei lygaid, a gwelodd brenin Israel mai un o'r proffwydi oedd. 42Dywedodd wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Am iti ollwng yn rhydd y gŵr oedd i'w ddifodi, rhaid i ti gymryd ei le, a'th bobl di le ei bobl ef.’ ” 43Dychwelodd brenin Israel adref i Samaria yn ddigalon a dig.

Dewis Presennol:

1 Brenhinoedd 20: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda