Atebodd yntau, “Bûm i'n selog iawn dros ARGLWYDD Dduw y Lluoedd; cefnodd yr Israeliaid ar dy gyfamod, a bwrw d'allorau i lawr, a lladd dy broffwydi â'r cleddyf; myfi'n unig sydd ar ôl, ac y maent yn ceisio f'einioes innau.” Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dos yn ôl i gyfeiriad anialwch Damascus, a phan gyrhaeddi, eneinia Hasael yn frenin ar Syria, a Jehu fab Nimsi yn frenin ar Israel, ac Eliseus fab Saffat o Abel-mehola yn broffwyd yn dy le. Pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Hasael, bydd Jehu yn ei ladd; pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Jehu, bydd Eliseus yn ei ladd. Ond gadawaf yn weddill yn Israel y saith mil sydd heb blygu glin i Baal, na'i gusanu.” Wedi iddo ymadael oddi yno, cafodd Eliseus fab Saffat yn aredig, a deuddeg gwedd o'i flaen, ac yntau gyda'r ddeuddegfed. Wrth fynd heibio, taflodd Elias ei fantell drosto. Gadawodd yntau'r ychen a rhedeg ar ôl Elias a dweud, “Gad imi ffarwelio â'm tad a'm mam, ac mi ddof ar dy ôl.” Dywedodd wrtho, “Dos yn ôl; beth a wneuthum i ti?” Aeth yntau'n ôl a chymryd y wedd ychen a'u lladd, a berwi'r cig â gêr yr ychen, a'i roi i'r bobl i'w fwyta. Yna fe ddilynodd Elias a gweini arno.
Darllen 1 Brenhinoedd 19
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Brenhinoedd 19:14-21
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos