Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 19:1-10

1 Brenhinoedd 19:1-10 BCND

Mynegodd Ahab i Jesebel y cwbl yr oedd Elias wedi ei wneud, a'i fod wedi lladd yr holl broffwydi â'r cleddyf. Yna anfonodd Jesebel negesydd i ddweud wrth Elias, “Fel hyn y gwnelo'r duwiau i mi, a rhagor, os na fyddaf wedi gwneud dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy erbyn yr amser hwn yfory.” Ofnodd yntau a dianc am ei einioes nes dod i Beerseba, oedd yn perthyn i Jwda. Gadawodd ei was yno, ond aeth ef yn ei flaen daith diwrnod i'r anialwch. Pan oedd yn cymryd seibiant dan ryw bren banadl, deisyfodd o'i galon am gael marw, a dywedodd, “Dyma ddigon bellach, O ARGLWYDD; cymer f'einioes, oherwydd nid wyf fi ddim gwell na'm hynafiaid.” Ond wedi iddo orwedd a chysgu dan ryw bren banadl, dyna angel yn ei gyffwrdd ac yn dweud wrtho, “Cod, bwyta.” A phan edrychodd, wrth ei ben yr oedd teisen radell a ffiolaid o ddŵr; a bwytaodd ac yfed ac ailgysgu. Daeth yr angel yn ôl eilwaith a'i gyffwrdd a dweud, “Cod, bwyta, rhag i'r daith fod yn ormod iti.” Cododd yntau a bwyta ac yfed; a cherddodd yn nerth yr ymborth hwnnw am ddeugain diwrnod a deugain nos, hyd at Horeb, mynydd Duw. Yno aeth i ogof i aros, a daeth gair yr ARGLWYDD ato gan ddweud, “Beth a wnei di yma, Elias?” Dywedodd yntau, “Bûm i'n selog iawn dros ARGLWYDD Dduw y Lluoedd; cefnodd yr Israeliaid ar dy gyfamod, a bwrw d'allorau i lawr, a lladd dy broffwydi â'r cleddyf; myfi'n unig sydd ar ôl, ac y maent yn ceisio f'einioes innau.”