Dywedodd Elias y Thesbiad o Thisbe yn Gilead wrth Ahab, “Cyn wired â bod ARGLWYDD Dduw Israel yn fyw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu, ni bydd na gwlith na glaw y blynyddoedd hyn ond yn ôl fy ngair i.” Wedyn daeth gair yr ARGLWYDD ato: “Dos oddi yma a thro tua'r dwyrain ac ymguddia yn nant Cerith, sydd i'r dwyrain o'r Iorddonen. Cei yfed o'r nant, a pharaf i gigfrain dy borthi yno.” Aeth yntau a gwneud yn ôl gair yr ARGLWYDD ac aros yn nant Cerith i'r dwyrain o'r Iorddonen. Bore a hwyr dôi cigfrain â bara a chig iddo, ac yfai o'r nant. Ond ymhen amser sychodd y nant o ddiffyg glaw yn y wlad
Darllen 1 Brenhinoedd 17
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Brenhinoedd 17:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos