Un arall a gododd mewn gwrthryfel yn erbyn y brenin oedd Jeroboam fab Nebat, Effratead o Sereda, a swyddog i Solomon; gwraig weddw o'r enw Serfa oedd ei fam. A dyma'r achos iddo wrthryfela yn erbyn y brenin: pan oedd Solomon yn codi'r Milo ac yn cau'r bwlch ym mur dinas ei dad Dafydd, yr oedd Jeroboam yn ŵr medrus; a phan welodd Solomon sut yr oedd y llanc yn gwneud ei waith, gwnaeth ef yn arolygwr dros holl fintai llafur gorfod llwyth Joseff. Y pryd hwnnw digwyddodd i Jeroboam fynd o Jerwsalem, ac ar y ffordd cyfarfu â'r proffwyd Aheia o Seilo mewn mantell newydd, heb neb ond hwy ill dau yn y fan. Cydiodd Aheia yn y fantell newydd oedd amdano a'i rhwygo'n ddeuddeg darn, a dweud wrth Jeroboam, “Cymer ddeg o'r darnau, oherwydd fel hyn y dywedodd ARGLWYDD Dduw Israel: ‘Yr wyf ar rwygo'r deyrnas o afael Solomon, a rhoi i ti ddeg o'r llwythau. Ond caiff ef un llwyth er mwyn fy ngwas Dafydd, ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais allan o holl lwythau Israel. Gwnaf hyn am ei fod wedi fy ngwadu i ac addoli Astoreth duwies y Sidoniaid, a Chemos duw Moab, a Milcom duw'r Ammoniaid, ac am nad yw wedi cerdded yn fy llwybrau i fel ei dad Dafydd, na gwneud yr hyn sy'n iawn gennyf fi, sef cadw fy ordeiniadau a'm barnedigaethau. Eto nid wyf am gymryd y deyrnas i gyd o'i ddwylo; yn hytrach gadawaf ef yn bennaeth am ei oes, er mwyn fy ngwas Dafydd, a ddewisais ac a gadwodd fy ngorchmynion a'm deddfau. Ond yr wyf am gymryd y deyrnas oddi ar ei fab a rhoi deg llwyth ohoni i ti. Rhoddaf un llwyth i'w fab, fel y caiff fy ngwas Dafydd lamp ger fy mron am byth yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais i mi fy hun i osod fy enw yno. Dewisaf dithau i deyrnasu ar gymaint ag a ddymuni, a byddi'n frenin ar Israel. Ac os gwrandewi ar bopeth a orchmynnaf, a rhodio yn fy ffyrdd, a gwneud yr hyn sy'n iawn gennyf, sef cadw fy neddfau a'm gorchmynion fel y gwnaeth fy ngwas Dafydd, byddaf gyda thi a chodaf iti dŷ sicr fel y gwneuthum i Ddafydd. Rhoddaf Israel i ti er mwyn cosbi hil Dafydd oherwydd hyn; eto nid am byth chwaith.’ ” A cheisiodd Solomon ladd Jeroboam, ond ffodd Jeroboam draw i'r Aifft at Sisac brenin yr Aifft, ac yno y bu hyd farwolaeth Solomon.
Am weddill hanes Solomon, popeth a gyflawnodd, a'i ddoethineb, onid yw ar gael yn llyfr gweithredoedd Solomon? Deugain mlynedd oedd hyd yr amser y teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem dros Israel. Pan fu farw Solomon, a'i gladdu yn ninas ei dad Dafydd, daeth ei fab Rehoboam yn frenin yn ei le.