Pan glywodd brenhines Sheba am fri Solomon, daeth i'w brofi â chwestiynau caled. Daeth i Jerwsalem gyda gosgordd niferus iawn—camelod yn cludo peraroglau a stôr fawr o aur a gemau. Pan ddaeth hi at Solomon, dywedodd wrtho'r cwbl oedd ar ei meddwl, ac atebodd yntau bob un o'i gofyniadau; nid oedd dim yn rhy dywyll i'r brenin ei esbonio iddi. A phan welodd brenhines Sheba holl ddoethineb Solomon, a'r tŷ a adeiladodd, ac arlwy ei fwrdd, eisteddiad ei swyddogion, gwasanaeth ei weision a'i drulliaid yn eu lifrai, a'r poethoffrymau y byddai'n eu hoffrymu i'r ARGLWYDD, diffygiodd ei hysbryd. Addefodd wrth y brenin, “Gwir oedd yr hyn a glywais yn fy ngwlad amdanat ac am dy ddoethineb. Eto nid oeddwn yn credu'r hanes nes imi ddod a gweld â'm llygaid fy hun—ac wele, ni ddywedwyd mo'r hanner wrthyf! Y mae dy ddoethineb a'th gyfoeth yn rhagori ar yr hyn a glywais. Gwyn fyd dy wŷr, y gweision hyn sy'n gweini'n feunyddiol arnat ac yn clywed dy ddoethineb. Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a'th hoffodd di ddigon i'th osod ar orseddfainc Israel. Am i'r ARGLWYDD garu Israel am byth, y mae wedi dy roi di'n frenin, i weinyddu barn a chyfiawnder.” Yna rhoddodd hi i'r brenin chwe ugain talent o aur a llawer iawn o beraroglau a gemau. Ni chafwyd byth wedyn gymaint o beraroglau ag a roddodd brenhines Sheba i'r Brenin Solomon.
Darllen 1 Brenhinoedd 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Brenhinoedd 10:1-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos