Oni wyddoch mai aelodau Crist yw eich cyrff chwi? A gymeraf fi, felly, aelodau Crist a'u gwneud yn aelodau putain? Dim byth! Neu oni wyddoch fod dyn sy'n ymlynu wrth butain yn un corff â hi? Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud, “Bydd y ddau yn un cnawd.” Ond y sawl sy'n ymlynu wrth yr Arglwydd, y mae'n un ysbryd ag ef. Ffowch oddi wrth buteindra; pob pechod arall a wna rhywun, beth bynnag ydyw, y tu allan i'r corff y mae, ond y mae'r sawl sydd yn puteinio yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun. Neu, oni wyddoch fod eich corff yn deml i'r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn sydd gennych oddi wrth Dduw, ac nad yr eiddoch eich hunain mohonoch? Oherwydd prynwyd chwi am bris. Felly gogoneddwch Dduw yn eich corff.
Darllen 1 Corinthiaid 6
Gwranda ar 1 Corinthiaid 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 6:15-20
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos