Yn awr, os pregethir Crist, ei fod wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, sut y mae rhai yn eich plith yn dweud nad oes atgyfodiad y meirw? Os nad oes atgyfodiad y meirw, nid yw Crist wedi ei gyfodi chwaith. Ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, gwagedd yw'r hyn a bregethir gennym ni, a gwagedd hefyd yw eich ffydd chwi, a ninnau hefyd wedi ein cael yn dystion twyllodrus i Dduw, am ein bod wedi tystiolaethu iddo gyfodi Crist—ac yntau heb wneud hynny, os yw'n wir nad yw'r meirw'n cael eu cyfodi. Oherwydd os nad yw'r meirw'n cael eu cyfodi, nid yw Crist wedi ei gyfodi chwaith. Ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, ofer yw eich ffydd, ac yn eich pechodau yr ydych o hyd. Y mae'n dilyn hefyd fod y rhai a hunodd yng Nghrist wedi darfod amdanynt. Os ar gyfer y bywyd hwn yn unig yr ydym wedi gobeithio yng Nghrist, nyni yw'r bobl fwyaf truenus o bawb. Ond y gwir yw fod Crist wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn flaenffrwyth y rhai sydd wedi huno. Gan mai trwy ddyn y daeth marwolaeth, trwy ddyn hefyd y daeth atgyfodiad y meirw. Oherwydd fel y mae pawb yn marw yn Adda, felly hefyd y gwneir pawb yn fyw yng Nghrist. Ond pob un yn ei briod drefn: Crist y blaenffrwyth, ac yna, ar ei ddyfodiad ef, y rhai sy'n eiddo Crist. Yna daw'r diwedd, pan fydd Crist yn traddodi'r deyrnas i Dduw'r Tad, ar ôl iddo ddileu pob tywysogaeth, a phob awdurdod a gallu. Oherwydd y mae'n rhaid iddo ef ddal i deyrnasu nes iddo osod ei holl elynion dan ei draed. Y gelyn olaf a ddilëir yw angau.
Darllen 1 Corinthiaid 15
Gwranda ar 1 Corinthiaid 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 15:12-26
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos