Ni ddylai gŵr orchuddio'i ben, ac yntau ar ddelw Duw ac yn ddrych o'i ogoniant ef. Ond drych o ogoniant y gŵr yw'r wraig. Oherwydd nid y gŵr a ddaeth o'r wraig, ond y wraig o'r gŵr. Ac ni chrewyd y gŵr er mwyn y wraig, ond y wraig er mwyn y gŵr. Am hynny, dylai'r wraig gael arwydd awdurdod ar ei phen, o achos yr angylion. Beth bynnag am hynny, yn yr Arglwydd y mae'r gŵr yn angenrheidiol i'r wraig a'r wraig yn angenrheidiol i'r gŵr. Oherwydd fel y daeth y wraig o'r gŵr, felly hefyd y daw'r gŵr drwy'r wraig. A daw'r cwbl o Dduw.
Darllen 1 Corinthiaid 11
Gwranda ar 1 Corinthiaid 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 11:7-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos