Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Cronicl 9

9
Y Rhai a Ddychwelodd o'r Gaethglud
1Rhifwyd holl Israel wrth eu hachau, ac y maent yn awr yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel, ond cafodd Jwda ei chaethgludo i Fabilon am ei chamwedd. 2Y rhai cyntaf i ddod i fyw yn eu tiriogaeth a'u trefi eu hunain oedd yr Israeliaid, yn offeiriaid, Lefiaid a gweision y deml. 3Dyma'r rhai o lwyth Jwda, o lwyth Benjamin ac o lwyth Effraim a Manasse, oedd yn byw yn Jerwsalem: 4O lwyth Jwda: Uthai fab Ammihud, fab Omri, fab Imri, fab Bani, o feibion Phares fab Jwda; 5ac o'r Siloniaid: Asaia y cyntafanedig, a'i feibion; 6ac o feibion Sera: Jeuel. Yr oeddent yn chwe chant a deg a phedwar ugain.
7O lwyth Benjamin: Salu fab Mesulam, fab Hodafia, fab Hasenua; 8Ibneia fab Meroham, Ela fab Ussi, fab Michri: Mesulam fab Seffatia, fab Reuel, fab Ibnija; 9yn ôl rhestrau eu teuluoedd yr oeddent yn naw cant a deg a deugain a chwech. Yr oeddent i gyd yn bennau-teuluoedd.
Yr Offeiriaid yn Jerwsalem
10O'r offeiriaid: Jedaia, Jehoiarib, Jachin, 11Asareia fab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, arolygwr tŷ Dduw; 12Adaia fab Jeroham, fab Passur, fab Malcheia; Maasia fab Adiel, fab Jasera, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer. 13Ac yr oedd eu brodyr, eu pennau-teuluoedd, yn fil saith gant chwe deg, dynion abl ar gyfer y gwaith o wasanaethu yn nhŷ Dduw.
Y Lefiaid a'r Porthorion yn Jerwsalem
14O'r Lefiaid: Semaia fab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion Merari; 15Bacbaccar, Heres, Galal, Mataneia fab Micha, fab Sichri, fab Asaff; 16Obadeia fab Semaia, fab Galal, fab Jeduthun; Berecheia fab Asa, fab Elcana, oedd yn byw yn nhrefi'r Netoffathiaid. 17O'r porthorion: Salum, Accub, Talmon, Ahiman, a'u brodyr; Salum oedd y pennaeth. 18Hyd at yr amser hwnnw porthorion oeddent yng ngwersylloedd y Lefiaid wrth ymyl porth y brenin i'r dwyrain. 19Salum fab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a'i frodyr y Corahiaid o dŷ ei dad, oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth o gadw trothwy'r babell, fel yr oedd eu tadau yn geidwaid y fynedfa i wersyll yr ARGLWYDD. 20Phinees fab Eleasar oedd eu harolygwr, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef. 21Sechareia fab Maselmeia oedd ceidwad drws pabell y cyfarfod. 22Yr oedd cyfanswm y rhai oedd wedi eu dethol i fod yn borthorion wrth y trothwy yn ddau gant a deuddeg, wedi eu cofrestru yn ôl eu pentrefi. Dafydd a Samuel y gweledydd oedd wedi eu gosod yn eu swydd. 23Yr oeddent hwy a'u meibion yn cadw gwyliadwriaeth wrth byrth tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r babell. 24Yr oedd y porthorion i fod ar bedair ochr, y dwyrain, y gorllewin, y gogledd a'r de. 25Yr oedd eu brodyr o'r pentrefi i ddod atynt am wythnos bob hyn a hyn. 26Am eu bod yn ddibynadwy, Lefiaid oedd y pedwar prif borthor, a hwy oedd yn gofalu am ystafelloedd a thrysorau tŷ Dduw. 27Yr oeddent yn lletya o gwmpas tŷ Dduw am mai hwy oedd yn gofalu amdano ac yn ei agor bob bore. 28Yr oedd rhai ohonynt yn gofalu am lestri'r gwasanaeth; yr oeddent yn eu cyfrif wrth eu cario allan ac wrth eu cadw. 29Yr oedd eraill yn gofalu am ddodrefn a llestri'r cysegr, y peilliaid, y gwin, yr olew, y thus a'r perlysiau. 30Yr oedd rhai o feibion yr offeiriaid yn gwneud ennaint gyda pheraroglau. 31Am ei fod yn ddibynadwy, yr oedd Matitheia, un o'r Lefiaid a mab cyntafanedig Salum y Corahiad, yn gweithio wrth y radell. 32Yr oedd rhai o'u brodyr y Cohathiaid yn gyfrifol am ddarparu'r bara gosod bob Saboth.
33Dyma'r cantorion, pennau-teuluoedd y Lefiaid, a oedd mewn ystafelloedd ar wahân am eu bod wrth eu gwaith ddydd a nos. 34Dyma bennau-teuluoedd y Lefiaid, a oedd yn byw yn Jerwsalem, yn ôl eu rhestrau.
Teulu'r Brenin Saul
1 Cron. 8:29–38
35Yr oedd Jehiel tad Gibeon yn byw yn Gibeon; enw ei wraig oedd Maacha, 36a'i gyntafanedig Abdon, ac yna Sur, Cis, Baal, Ner, Nadab, 37Gedor, Ahïo, Sechareia a Micloth; 38Micloth oedd tad Simeam. Yr oeddent hwy yn byw yn Jerwsalem yn ymyl eu brodyr. 39Ner oedd tad Cis, a Cis oedd tad Saul, a Saul oedd tad Jonathan, Malcisua, Abinadab ac Esbaal. 40Mab Jonathan oedd Meribaal; a Meribaal oedd tad Micha. 41Meibion Micha: Pithon, Melech, Tarea ac Ahas. 42Ahas oedd tad Jara, a Jara oedd tad Alemeth, Asmafeth a Simri; a Simri oedd tad Mosa; 43Mosa oedd tad Binea; a Reffaia oedd ei fab ef, Elasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau. 44Yr oedd gan Asel chwech o feibion, a'u henwau oedd: Asricam, Bocheru, Ismael, Seareia, Obadeia a Hanan. Hwy oedd meibion Asel.

Dewis Presennol:

1 Cronicl 9: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda