Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 5:1-20

Marc 5:1-20 DAFIS

Dâth Iesu i wlad i Gerasenied ar ochor arall i llyn. We'i ddisgiblion 'dag e, a ginted wên‐nhwy wedi dwâd mas o'r cwch, dâth dyn aton nhwy o ganol i twme, a we isbryd drwg indo fe. We'r dyn in byw in ganol i twme. We neb in galler i glwmu fe'n sownd ragor, ddim hyd 'n‐ôd gida tjaen. Wedd e wedi câl i glwmu sawl gwaith o'r blân da tjaens a lloithirie, on wedd‐e wedi whalu'r tjaens a torri'r lloithirie, a we neb in ddigon cryf i dawelu e. Trw'r dydd a'r nos wedd‐e'n wben in ganol i twme a ar i minidde, a'n neud dolur i unan 'da cerrig. Gwelodd‐e Iesu'n dwâd o bell bant, a rhedodd e ato a towlu i unan lawr o'i flân e. Wedyn gweiddodd‐e ar dop i laish, “Pam wit‐ti'n busnesan 'da fi, Iesu, Crwt i Duw Mowr? In enw Duw, dwi'n begian arnot ti, paid neud dolur i fi!” Wedodd‐e 'na achos we Iesu'n gweu 'tho fe, “Isbryd drwg, dere mas o'r dyn 'ma.” Gofinodd Iesu iddo fe, “Beth yw di enw di?” Atebodd‐e, “In enw i yw Lleng, achos ma lot onon ni”; a nâth‐e fegian arno fe i beido a'u hala nhwy mas o'r ardal. Ar u pwys nhwy, ar i mini, we lot o foch in pori, a begianodd ir isbridion arno fe, a gweud, “Hal ni miwn i'r moch, gâd ni fynd miwn iddon nhwy.” Gadodd Iesu iddon nhwy neud 'ny. Dâth ir isbridion drwg mas o'r dyn a mynd miwn i'r moch, a wedyn fe redodd i moch lawr i graig a miwn i'r llyn a boddi. We rhyw ddwy fil o foch 'na i gyd. Rhedodd i dinion we'n gofalu amdanon nhwy bant a mynd a gweud beth we wedi digwydd in i trefi a'r wlad rownd obitu'r lle. Dâth dinion i weld beth we wedi digwydd. Dethon‐nhwy at Iesu, a gweld i dyn we'r isbridion drwg wedi bod indo fe in ishte wedi gwishgo, in iawn in i feddwl, a fe geson nhwy ofon. Gwedodd i rhei we wedi gweld i cifan beth we wedi digwydd i'r dyn a'r moch. Begianon‐nhwy ar Iesu i adel u hardal nhwy. Pan we Iesu'n mynd miwn i'r cwch begianodd i dyn we'r isrbydion wedi bod indo fe ar Iesu i adel iddo fe ddwâd 'dag e. Pallodd Iesu i adel e, ond wedodd‐e wrtho fe, “Cer getre at di dilwith a gwe‐'thon nhwy beth ma'r Arglwi wedi neud i ti, a shwt gwrmodd drenu arnot ti.” Âth e bant a gweud in Gwlad i Deg Tre beth we Iesu wedi neud iddo fe, a we bob un wedi'u sinnu.