Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 5:21-43

Marc 5:21-43 DAFIS

Croishodd Iesu miwn cwch i ochor arall i llyn shwrne 'to. A wedd‐e ar ochor i dŵr pan ddâth crowd mowr ato fe. Dâth dyn o'r enw Jairus mlân. We Jairus in wenidog in un o'r sinagoge. Pan welodd‐e Iesu cwmpodd‐e wrth i drâd e a begian arno fe a gweud, “Ma'n rhoces fach i bitu farw. Dere a rho di ddwylo arni fel bo'i'n gwella a byw.” Âth Iesu 'dag e a dilinodd i crowd mowr a gwasgu rownd 'ddo fe. We menyw we wedi bo'n sal da hemredj am ddouddeg mline in i crowd. Wedd‐i wedi godde'n hir dan lot o wanol ddoctoried. Wedd‐i wedi hala pob dime goch we 'da'i in treial gwella, ond gwâthigu wedd‐i wedi neud in lle gwella. Wedd‐i wedi cliwed lot am Iesu, a dâth hi lan tu‐ôl 'ddo fe in i crowd a cwrdd â'i ddillad e, achos wedodd‐i wrth i hunan, “Os 'na'i gwrdd â'i ddillad e, fe ga i'n wella.” Gwellodd ir hemredj ar unweth, a fe deimlodd‐i i bo‐'i wedi gwella. Ond we Iesu in gwbod indo i unan bo nerth wedi mynd mas ono fe, a troiodd‐e rownd a gweud, “Pwy gwrddodd â'n ddillad i?” Gwedodd i ddisgibion wrtho fe, “Ti'n gweld shwt ma'r crowd in hwpo rown ti, a wedyn weth wit‐ti'n gofyn, ‘Pwy sy wedi cwrdd â fi?’ ” Drichodd‐e rownd i weld pwy we wedi neud 'ny. On fe ddâth i fenyw mlân, a wedd‐i'n crinu i gyd 'da ofon achos bo‐'i'n gwbod beth we wedi digwydd iddi, a cwmpodd hi lawr o'i flân e a gweud i gwir i gyd. Gwedodd Iesu wrthi, “In ferch i, ma di ffydd di wedi di wella di. Cer, ma popeth in iawn, a wit‐ti wedi gwella.” We Iesu wrthi'n sharad o hyd pan ddâth dinion o dŷ gwenidog i sinagog a gweud, “Ma di roces di wedi marw. Pam poeni mwy ar i Mishtir?” Rondodd Iesu ddim ar beth we'n câl i weud a gwedodd‐e wrth wenidog i sinagog, “Paid câl ofon. Ma credu'n ddigon i ti.” Gadodd‐e i neb ddod 'dag e ond Pedr, Iago a Ioan brawd Iago. Dethon‐nhwy i dŷ gwenidog i sinagog, a gwelodd‐e'r comoshon we fan‐'ny a'r dinion in llefen a gweddi ar dop u lleishe. Âth‐e miwn a gweu‐'thon nhwy, “Pam ŷch‐chi'n neud shwt gomoshon a'n llefen? Seno'r roces wedi marw o gwbwl; dim ond cisgu ma‐i.” Nethon‐nhwy sbort ar i ben e; ond halodd‐e nhwy gyd mas, a mynd â mam a tad i roces, a'r rhei we 'dag e, miwn i le we'r plentyn. Cijodd‐e in llaw'r plentyn a gweu‐'thi, “Talitha cwm”, sy'n goligu, “Gronda arna i, roces fach, a coda.” A wedyn fe gododd i roces a cerdded rownd. Wedd‐i'n ddouddeg mlwydd wed. Wên‐nhwy gyd wedi'u sinnu ar hyn. Roiodd‐e ordors pendant na we neb i wbod am hyn, a gwedodd‐e wrthon nhwy i roi rwbeth i fita i'r roces.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Marc 5:21-43