Ethon‐nhwy i le o'r enw Gethsemane, a gwedo Iesu wrth i ddisgiblion, “Ishteddwch fan‐'yn wrth i fi weddïo.” Cwmrodd‐e Pedr a Iago a Ioan 'dag e. Wedde‐e'n becso a wedi'i drwbli lot, a gwedodd‐e wrthon nhwy, “Dw‐i'n godde'n ombeidus. Sticwch chi fan‐'yn a cadwch ligad ar bethe.” Âth‐e i unan mlân rhiw damed bach, a cwmpodd‐e i'r llawr a gweddïo a gweddïo os we ffordd i gâl i'r peth ofnadw we o'i flân e fynd heibo 'ddo fe. “Abba, in Dad i, wit‐ti'n galler neud bopeth. Simuda'r ddish 'ma bant wrtho i; ond peida di neud fel dw‐i moyn, on nêd‐di fel wit‐ti moyn.” Dâth Iesu nôl a'u ffindo nhwy'n cisgu. Gwedodd‐e wrth Pedr, “Seimon, wit‐ti'n cisgu? Wenoch‐chi galler cadw lligad am awr fach? Cadwch ligad a gweddïwch, fel bo chi ddim in câl ich profi. Ma'r isbryd in barod i neud i peth, on ma'r natur ddinol in wan.” Âth‐e bant weth a gweddïo, a gweud ir un geire. Dâth‐e nôl 'to a'u ffeindio nhwy in cisgu weth, achos we'u lliged nhwy'n drwm 'da cwsg; wenon‐nhwy gwbod shwt i ateb e'r tro 'ma. Dâth‐e nôl am i tridydd gwaith, a gweu 'thon‐nhwy, “Cisgwch mlân, bwrwch ich blinder. Na ddigon! Ma'r awr wedi dwâd! Drichwch, ma Crwt i Dyn in câl i roi in dwylo pechaduried. Codwch, a gadwch i ni fynd! Drichwch, ma'r un sy'n mynd in fradichu in dwâd!”
Darllen Marc 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 14:32-42
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos