Gadodd‐e'r lle 'ny a dâth e i wlad Jiwdea a ochor bella afon Iorddonen. A shwrne 'to casglodd i crowde rownd 'ddo, a shwrne 'to fe ddisgodd‐e nhwy, fel wedd‐e'n arfer neud. Dâth rhei Ffariseied ato fe, a gofinon‐nhwy iddo fe os wedd‐i'n iawn i ddyn gâl difôrs wrth i wraig. Nethon‐nhwy hyn i desto fe. Atebodd e, “Beth wedo Moses wrthoch chi?” Gwedon nhwy, “We Moses in gadel i ddyn reito llithyr i ddiforso'i wraig a wedyn i hala hi bant.” Wedyn gwedodd Iesu wrthon nhwy, “Pan reitodd e'r gorchimyn 'na i chi, wedde e'n neud 'ny wrth gofio mor galed we'ch calonne chi i ddisgu dim byd. Achos o ddachre'r gredigeth nâth Duw i ddinolieth in wryw a menyw. Achos 'ny ma'n rhaid i'r gŵr madel â'i dad a'i fam a mynd at i wraig, a bydd i ddou in dwâd in un corff. Ddim dou ŷn‐nhwy wedyn, ond un corff. So wedyn ddile ddim un dyn rannu beth ma Duw wedi dwâd at i gily.” Pan wên‐nhwy nôl in i tŷ lweth, gofinodd i disgiblion iddo fe obitu hyn. Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Ma'r dyn sy'n diforso'i wraig a'n priodi gwraig arall in godinebu in i herbyn hi; a os ma hi'n diforso'i gŵr a'n priodi gŵr arall ma hi'n godinebu 'fyd.”
Darllen Marc 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 10:1-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos