Âth Iesu mas o'r demel wedd e'n mynd ar i siwrne, pan ddâth i ddisgiblion ato i ddangos iddo'r demel a'r bildins mowr i gyd. Atebodd e nhwy, “Ŷch chi'n gweld i pethe 'ma i gyd? Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, bydd ddim un carreg ar garreg arall in câl i gadel 'ma na fydd in câl i dinistro.”
Wrth iddo ishte ar Fini'r Llwyn Olifs dâth i disgiblion ato fe in dawel a gweud, “Gwêd wrthon ni, pryd fydd i pethe 'ma in digwydd, a beth fydd i sein i ni di fod ti'n dwâd a diwedd ir amser 'ma?” Atebo Iesu nhwy, “Watswch chi bo neb in ich arwen chi ffor rong. Biddwch chi'n cliwed am rifelodd a sôn am rifelodd. Watswch bo chi ddim in gofidio. Rhaid i hyn ddigwydd, ond seno'r diwedd wedi dwâd 'to. Achos bydd cenedl in codi in erbyn cenedl; bydd newyn mewn sawl man a daeargrynfeydd. I pethe 'ma yw dachre'r gofidie.
“Wedyn biddan nhwy in ich rhoi chi in dwylo erill i gâl ich poenydio a'n ich lladd chi, a bidd i cenhedlodd in ich casáu chi achos bo chi'n ffiddlon i fi. Wedyn bydd lot in cwmpo bant, in bradichu i gily, in casáu i gily; a achos bo ir anghifreth i gyd bydd cariad rhan fwya in oeri. Ond bydd i rhei sy'n stico'i mas i'r diwedd in câl i safio; a bydd i Newyddion Da am i Deyrnas in câl i gihoeddu in i byd i gyd er mwyn tistio i'r cenhedlodd i gyd, a wedyn bydd i diwedd in dwâd.
“Pan welwch chi'r peth ofnadw-ofnadwr, i peth nâth i proffwd Daniel sharad amdano, in sefyll in i lle sanctedd (diallwch chi sy'n darllen beth dwi'n meddwl), wedyn bydd i rhei in Jwdea in gorffod jengid i'r minidde; ddile'r dyn ar ben tŷ ddim dwâd lawr i dinnu pethe mas o'r tŷ; a ddile'r dyn in i parc ddim troi nôl i moyn i wishg. Druens o'r menwod 'ny sy'n disghwyl neu'n rhoi swc! Gweddïwch na fiddwch chi'n jengid in i geia neu ar i Sabbath, achos ir amser 'ny bydd diodde mowr bydd dim byd tebyg wedi digwydd o ddachre'r byd hyd nawr; a bydd e ddim in digwydd 'to. Os na fyse'r amser 'na in câl i neud in firach, byse'r un dyn byw wedi câl i safio; ond ceith ir amser 'na i neud in firrach ar gownt i rhei sy wedi câl u dewis. Os neith unrhyw un weu’thoch chi'r amser 'ny, ‘Drichwch, ‘co'r Meseia’, neu ‘Fan’yn’, pidwch credu; achos bydd meseias isgis a proffwydi isgis in codi, a neud seins mowr a rhifeddode, fel bo nhwy'n hala dinion ar i ffor rong, hyd n’ôd i rhei sy wedi câl u dewish os gallan nhwy. Drichwch, dwi wedi gweu’thoch chi cyn bo'r pethe'n digwydd. Fel os wedan nhay wrthoch chi, ‘Drichwch, mae e in i lle diffeth’, peidwch mynd mas 'na; ‘Drichwch, mae e in i rwmydd canol’, peidwch credu 'ny; achos fel pna mae'n bwrw gole ma'r fellten in stretsho o'r dwyren i'r gorllewin, fel 'na bydd i pan ddeith Crwt i Dyn. Lle ma'r corff mawr, fan'ny ma'r fwltsyrs in crinhou.
“Streit ar ôl i dyddie caled 'ny
‘Bydd ir houl in tewillu,
a bydd i llouad ddim in rhoi gole,
bydd i sêr in cwmpo o'r awyr,
a bydd nerthodd i nefodd in câl shigwdad.”
Wedi ceith sein Crwt i Dyn i weld in blaen in ir awyr, a bydd pob un o lwythi'r ddeiar in bwrw'r bryste miwn mwrnin, a welan nhwy Grwt i Dyn in dwâd ar gwmwle'r nefodd gida nerth a gogoniant mowr. A halith e i angilion 'da sŵn corn mowr, a newn nwhy grinhou i rhei mae e wedi'u dewish o'r pedwar gwynt, o un ochor i nefodd i'r llall.
“Disgwch wrth i llwynt ffigs. Ginted mae'i gangen wedi tineru a ma dail arno, ŷch chi'n gwbod bod ir haf in agos. ‘Run peth in gowir, pan ŷch chi'n gweld i pethe hyn, biddwch chi'n gwbod bod Crwt i Dyn inagos, wrth i drwse.
Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, neith i ginhedleth 'ma ddim mynd o’ma nes bo'r pethe 'ma wedi digwydd. Bydd nefodd â deiar in mynd heibo, ond eith ing ngeire i ddim heibo o gwbwl.
Ond sneb in gwbod am i dydd na'r awr 'ny, ddim hyd 'nôd agnilion i nefodd na'r Crwt. Dim ond i Tad sy'n gwbod. Achos fel wedd i in amser Noas, fel'ny bydd i pan bydd Crwt i Dyn in dwâd. Achos in i dyddie ni o flân i llifogydd wen nhwy'n bita a hifed, priodi a'n câl u rhoi i briodi, nes dâth i dwarnod pan âth Noa miwn i'r arch, a nethon nhwy wbod dim byd hys nes i'r llifogydd ddwâd a'u cario nhwy bant i gyd. Pan ddeith Crwt i Dyn bydd i gowir fel'na. Bydd dou ddyn miwn parc; ceith un i gwmrid a ceith i llall i adel. Bydd dwy fenyw in malu llafur in i felin; ceith un i chwmrid ceith i llall i gadel. Watswch chi mas wedyn 'te, achos senoch chi'n gwbod pwy ddwarnod ma’ch Mishtir chi'n dwâd. Ŷch chi'n gwbod in iawn os byse'r perchen tŷ in gwbod pwy amser o'r nos we'r lleidir in dwâd, y byse fe lan in dishgwyl amdano a fyse fe ddim wedi gadel i rywun dorri miwn i'r tŷ. So, biddwch chi in barod ‘fyd, achos mae Crwt i Dyn in dwâd amser senoch chi'n i ddisgwyl e.
“Gwedwch wrtha i, pwy yw'r ceithwas da gallwch chi drysto ma'r mishtir wedi gosod dros i dŷ, i roi bwyd iddyn nhwy ar ir amser iawn? ‘Na hapus yw'r ceithwas mae'i fishtir in câl in gweithio pan ddeith e gatre. Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, bydd e in i roi e i redeg i eiddo i gyd. Ond os wedith i ceithwas drwg wrth i unan, ‘Ma'n fishtir i in slow in dwâd’, a mae e'n dachre bwrw i ceithweishon erill, a'n bita a hifed gida meddwon, deith mishtir i ceithwas 'na nôl ar ddwarnod seno fe'n dishgwyl, a ar amser seno fe'n gwbwl, a neith e i dorri e'n ddou a hala iddo shario ffawd i rhagrithwyr. Bydd wben a crenshan dane fan'ny.