I dwarnod 'ny âth Iesu mas o'r tŷ a ishte ar lan i llyn, a dâth shwt growde mowr rown 'ddo fel gorffodd e fynd miwn i gwch a ishte lawr. A 'na lle we'r crowd in sefyll ar i lan. Gwedodd e lot o beth wrthyn nhwy mewn damegion, a gwud, “Âth howr mas i hou. A fel wedd e'n hou, cwpodd peth had ar bwys ir hewl, a dâth ir adarn a'i fita fe. Cwpodd peth o'r had ar ddeiar garegog lle we dim lot o bridd i gâl, a fe diddodd whap achos bo ddim dwnder pridd fan 'ny. Pan gododd ir houl fe gâs i losgi, a achos bo ddim gwriedde 'dag e fe wiwodd. Cwpodd had arall ar ddrisu; tiddodd i drisu a'i dagu fe. Cwmpodd had arall ar bridd da a rhoi crop o gant, whedeg, neu drideg inôl am bob hadyn gâth i hou. Os wes cluste 'da chi, iwwch nhwy. Dâth i disgiblion ato fe a gweud, “Pan wit ti'n sharad 'da nhw in iwso damegion?” Atebodd e, “Ŷch chi wedi câl gwbod beth yw dirgelwch Teyrnas Nefodd, ond seno 'na wedi câl i roi iddyn nhwy. Achos i rhei sy 'da nhwy rwbeth, geith mwy i roi, a bydd digonedd 'da nhwy; ond wrth i rhei sy â dim byd, bydd hyd 'nôd beth sy 'da nhwy in câl i gwmrid bant. Na pam dw i'n sharad 'da nhwy miwn damegion, achos man nhwy'n gweld heb weld a'n cliwed heb gliwed a heb ddiall.
Darllen Mathew 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 13:1-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos