Galwo Iesu'r Douddeg at i gily a rhoi comands iddyn‑nhwy dros bob cithrel a nerth i wella; a halodd‑e nhwy i brigethu Teyrnas Duw a gwella'r rhei we ddim in dda. Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Peidwch mynd â dim byd 'da chi ar i jant, dim ffon, dim sach, dim bara, dim arian; a un crys in lle dou. Pan fiddwch‑chi'n mynd miwn i dŷ, arhoswch fan 'ny nes bo chi'n gadel i lle. Am i rhei sy ddim in rhoi croeso ichi, pan fiddwch‑chi'n mynd mas o'r pentre 'na sgwidwch i dwst off ich trâd i ddangos beth sy 'da chi in u herbyn nhwy.” Gadon‑nhwy a mynd trw pentre ar ôl pentre in prigethu i Newyddion Da a'n gwella dinion bob man. Cliwo Herod i tetrach am i pethte 'ma i gyd we'n câl u neud. Wedd‑e ddim in diall in iawn achos we rhei'n gweud bo Ioan wedi codi o farw, rhei'n gweud bod Eleias wedi dod, a rhei erill bod un o'r hen broffwydi wedi codi 'to. Gwedo Herod, “Torres‑i ben Ioan bant; pwy yw hwn dw‑i'n cliwed ir holl storis amdano fe?” Wedd‑e bitu hollti'i fola ishe cwrdd ag e.
Dâth ir apostolion nôl a gweu‑'th Iesu bopeth wen‑nhwy wedi neud. Âth‑e â nhw in dawel fel bo neb in silwu a mynd i dre o'r enw Bethsaida; ond ffindodd i crowde fe a'i ddilyn e. Rhoiodd‑e groeso iddyn nhwy a sharad gida nhwy am Deyrnas Duw a gwella'r rhei we ishe'u gwella nhwy.
Wrth 'ddi nosi nosi dâth i Douddeg a gweu‑'tho, “Hal i crowd bant, fel gallan‑nwhy fynd miwn i'r pentrefi a'r ffermydd sy rownd fan 'yn i gâl rhiwle i aros a rhwbeth i fita, achos ŷn-ni mas miwn lle fan 'yn sy'n bell o bobman.” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Rhowch‑chi rwbeth iddyn nhwy fita ich hunen.” Gwedon‑nhwy, “Sdim byd mwy 'da ni na pum cwgen a dou bisgodyn. Odyn‑ni fod fynd in hunen a pernu bwyd iddyn nhwy i gyd?” Achos we pum mil o ddinion 'na. Gwedodd‑e wrth i ddisgiblion, “Halwch nhwy i ishte lawr in rhyw hanner cant ar i tro.” Nethon‑nhwy nes bo nhwy i giyd wedi ishte. Cwrmodd e'r pum cwgen a'u torri nhwy; a rhoiodd‑e nhwy i'r disgiblion i roi o flân i crowd. Biton‑nhwy nes bo nhwy i gyd in llawn. Casglon‑nhwy'r sbarion we dros ben, a llenwi douddeg basgeded.
Pan wedd‑e gweddïo bant o'r crowde we'r disgiblion 'dag e, a gofinodd‑e iddyn nhwy, “Pwy ma'r crowde in gweud wdw‑i?” Atebon‑nhwy, “'Ioan Fididdiwr'; rhei erill, 'Eleias', a rhei erill 'to bo un o'r hen broffwydi wedi codi 'to.” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Ond beth amdanoch chi, pwy ŷch‑chi'n gweud wdw‑i?” Atebo Pedr, “Meseia Duw.”
Rhoiodd‑e ordros iddyn nhwy beido gweud gair wrth neb am hyn, a wedd‑e ddim in whare, a gweud, “Rhaid i Grwt i Dyn ddiodde lot fowr, câl i wrthod 'da'r henuried, i pen ffeiradon a'r rhei sy'n disgu'r Gifreth, câl i ladd, a câl i godi ar i tridydd dwarnod.”
Gwedodd‑e wrth bob un, “Os ma unrhiw un ishe dod ar in ôl i, wedi ma'n rhaid iddyn nhwy droi cewn ar u hunen, codi'u crwes bob dwarnod a'n ddilyn i. Achos os ma dyn ishe safio i fowid bydd e'n i golli e; ond os yw dyn in colli i fowid ar in gownt i, bydd‑e'n i safio. Pwy werth yw‑i i ddyn gâl i byd mowr i gyd in gifan pan bo hinny'n goligu colli popeth? Achos os wes ing gwiddil i a'ng ngeire i ar unrhiw un, bydd u cwiddil nhwy ar Grwt i Dyn pan ddeith‑e in i ogoniant a in gogoniant i Tad a'r angilion sanctedd. Dw‑i'n gweud i gwir wrthoch chi, ma rhei in sefyll fan 'yn newn nhwy ddim profi marwolaeth nes gweld Teyrnas Duw.”
Bitu wyth dwarnod ar ôl gweud i pethe 'ma cwmrodd‑e Pedr, Ioan a Iago a mynd lan i'r mini i weddïo. Fel wedd‑e'n gweddïo, dâth altrad dros i wmed e a âth i ddillad e'n wyn-wyn i gyd in sheino. We dou ddyn, Moses a Eleias, in sharad 'dag e. Dethon‑nwy i'r golwg miwn gogoniant a sharad amdano'n mynd bant, shwt wedd‑e'n mynd i neud beth we Duw moyn 'ddo neud in Jerwsalem. We Pedr a'r rhei we 'dag e wedi bleino'n lân; ond pan ddihunon‑nhwy gwelon‑nhwy i ogoniant e a'r ddou ddyn we'n sefyll dag e. Fel we Moses a Eleias in mynd bant wrth Iesu gweod Pedr wrtho, “Mishtir, 'na beth da yw‑i in bod ni 'ma! Beth am godi tri lle ichi gisgodu fan 'yn, un i ti, un i Moses a un i Eleias.” Wedd‑e ddim in gwbod beth wedde'n weud. Wrth iddo weud hyn dâth cwmwl mowr a towlu'i gisgod drostyn nhwy; we ofon arnyn nhwy pan ethon nhwy miwn i'r cwmwl. Dâth llaish o'r cwmwl, “'Co'n Grwt i, dw‑i wedi'i ddewish e; grondwch arno fe.” Pan we'r llaish wedi pennu sharad, gethon‑nhwy Iesu ar i ben i unan. Arhoson‑nhwy'n dawel a wedon‑nhwy ddim byd wrth neb per‑'ny beth wen‑nhwy wedi gweld.
Tranoth, wedi 'ddyn nhwy ddwâd lawr o'r mini, dâth crowd mowr i gwrdd ag e. Dâth dyn o'r crowd a gweiddi mas, “Misthir, dricha ar in grwt plîs, achos 'na'r unig blentyn sy 'da fi, a mae isbryd in i gwmrid e drosto a hala fe weiddi mas in sidan; mae‑e'n i shiglo fe i gyd nes bo fe'n ben e'n ffrothan i gyd; dim ond trwy lot o wmdrech mae e'n i adel e, a ma'r peth bitu fod in ormod iddo fe. Begianes‑i ar di ddisgiblion di i dowlu fe mas, ond ffeilon‑nhwy. Atebo Iesu, “O 'na genhedleth ŷch‑chi, in pallu credu a'n troi pethe rownd i siwto chi'ch hunen! Am faint bidda‑i'n galler bo 'da chi, a bod â aminedd ichi? Dere â di grwt di 'ma.” Tra wedd‑e ar i ffordd draw 'co'r cithrel in i dowlu fe lawr a'n i shiglo fe i gyd. Ond sharadodd Iesu'n siarp 'da'r isbryd bowlyd, gwella'r crwt a'i roi e'n ôl i'r tad. Wen‑nhwy i gyd in rhifeddu at fowredd Duw.
Fel we bobun in sinnu at beth wedd‑e'n i neud, gwedodd‑e wrth i ddisgiblion, “Silwch ar i geire 'ma; man‑nhwy i chi: bydd Crwt i Dyn in câl i roi lan i ddwylo dinion.” Nethon‑nhwy ddim diall beth wedodd‑e, a gâs e i gwato wrthyn nhwy fel bo nhwy'n ffaelu gweld i ystyr e; a we ofon arnyn nhwy ofyn iddo fe beth wedd‑e obitu.
Cododd dadl fowr rhintyn nhwy obitu pwy we'r mwya. We Iesu'n gwbod am beth wen‑nhwy'n pledo in u meddilie, a gwmrodd‑e blentyn a'i roi e sefyll wrth i ochor. Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Ma unrhiw un sy'n folon derbyn i plentyn hwn in in enw i in in dderbyn i; a ma unrhiw un sy'n in dderbyn i in derbyn ir un nâth in hala i; achos i lleia ono chi yw'r mwya i gyd.”
Atebo Ioan, “Mishtir, gwelon‑ni riwun in towlu mas cithreilied in di enw di a dreion‑ni stopo fe achos wedd‑e ddim in di ddilyn di gida ni.” Gwedo Iesu wrtho fe, “Peidwch â treial i stopo fe; ma unrhiw sy ddim in ich erbyn chi, gida chi.”
Pan ddâth ir amser iddo fe gâl i gwmrid lan ir nefodd in agos, wedd‑e'n benderfynol o fynd i Jerwsalem, a halodd‑e negeswyr o'i flân e. Ethon‑nhwy miwn i un o bentrefi'r Samaried i baratoi ar i gifer e; ond nethon‑nhwy ddim mo'i dderbyn e achos wedd‑e'n mynd am Jerwsalem. Pan welo'r disgiblion Iago a Ioan hyn gwedon‑nhwy, “Arlgwidd, wit‑ti moyn i ni roi ordros i'r tân ddwâd lawr o'r nefodd a'u llosgu nhwy?” Troiodd‑e rownd a sharad in sharp gida nhwy, a gweud, “Senoch‑chi'n gwbod pwy isbryd ŷch‑chi'n perthyn iddo fe, achos dâth Crwt i Dyn ddim in ddistriwo bowide dinion ond i safio nhwy!” A ethon‑nhwy miwn i bentre arall.
Wrth i nw fynd ar hyd ir hewl gwedo rhiwun wrtho fe, “'Na‑i di ddilyn di i ble binnag ei‑di.” Gwedo Iesu wrtho fe, “Ma twlle 'da cadnoid a ma lle i aros 'da adar ir awyr, ond sdim man 'da Crwt i Dyn i roi i ben i orwe.” Gwedodd‑e wrth riwun arall, “Dilyna fi.” Ond gweodd‑e, “Syr, gad fi fynd a claddu'n dad ginta'n deg.” Ond wedodd‑e wrtho, “Gad di i'r rhei mawr gladdu'r rhei marw, ond cer di a rhannu'r newyddion am Deyrnas Duw.” Gwedo un arall, “'Na‑i di ddilyn di, syr; ond gad fi fynd i weud gwd-bei wrth bob un getre i ddachre.” Gwedo Iesu wrtho, “Sneb sy'n rhoi i law ar ir arad a wedyn in drych nôl in werth dim in Teyrnas Duw.”