Pan wedd‑e wedi bennu popeth we 'dag e weud in clyw dinio, âth e i Capernaum. We ceithwas 'da canwriad, a wedd‑e'n meddl i byd ono fe; wedd‑e'n dost a bitu farw. We'r canwriad wedi cliwed am Iesu a halodd rhei o arweinwyr ir Iddewon ato, in gofyn iddod ddod i neud i geithwas in well. Dethon‑nhwy at Iesu a begian arno fe, a gweud, “Ddilet‑ti neud hyn iddo fe, achos mae‑e'n haeddu fe; mae‑e'n caru in cenedl ni, a fe fildodd i sinagog i ni.” Âth Iesu bant 'da nhwy. Wedd‑e ddim in beth bant o'r tŷ pan halo'r canwriad rei ffrinds i weu 'tho, “Mishtir, paid poeni di unan, achos sa‑i'n ddigon da iti ddwâd dan in do i. 'Na pam wen‑i ddim in credu bo fi'n ddigon da i ddwâd ato ti in unan; jyst gwed i gair, a geith in was i i neud in well. Achos dw‑i 'fyd in ddyn ma 'da rhiwun arall gomdans drosta i a ma 'da fi sowldwrs dana i. Bidda‑i'n gweud wrth un 'ma. “Cer”, a mae‑e'n mynd; wrth un arall, “Dere” a mae‑e'n dod; a wrth ing geithwas, “'Na hyn”, a mae‑e'n i neud e.” Pan gliwo Iesu hyn, wedd‑e wedi sinnu. Troiodd‑e at i crowd we'n i ddilyn e a gweud, “Dw‑i'n gweu 'tho chi, sena‑i wedi gweld ffydd mor fowr â na hyd 'n‑ôd in Isrel.” Pan ddâth i rhei we wedi câl u hala nôl i'r tŷ ffindion‑nhwy'r ceithwas in iach.
Wedyn âth‑e i dre o'r enw Nain, a we'i ddisgiblion a crowd mowr in mynd 'dag e. Wrth iddo ddod in agos i iete'r dreg, we dyn we wedi marw in câl i gario mas; fe we unig grwt i fam, a we‑hi in widw. We crowd mowr o'r dre 'da hi. Pan welo'r Arglwidd hi, teimlodd‑e drenu mowr drosti, a gwedodd‑e wrthi, “Paid llefen.” Âth‑e mlân a twtsh â'r coffin, a safodd i bêrers in llony. Gwedodd‑e, “Gronda arna i, ddyn ifanc: coda.” Ishteddodd i dyn marw a dachre sharad; a rhoiodd Iesu e i'w fam. We pob un wedi'u sinnu'n ofnadw a'n rhoi gogoniant i Dduw a gweud, “Ma proffwd mowr wedi codi in in canol ni”, a “Mae Duw wedi dod at i bobol.” Âth i sôn amdano drw'r ardal i gyd.
Gwedo disgiblion Ioan wrtho fe am i pethe 'ma we wedi digwydd; a galwo Ioan dou o'i ddisgiblion ato fe a'u hala nhwy at ir Arglwidd, i ofyn, “Ti yw'r un sy'n dwâd, neu a ŷn‑ni fod ddishgwyl am riwun arall?” Dâth i dinion ato fe a gweud, “Halo Ioan Fididdiwr ni i ofyn iti, 'Ti yw'r un sy'n dwâd, neu a ŷn‑ni fod ddishgwyl am riwun arall?'” Atebodd‑e nhwy, “Cerwch a gweud wrth Ioan beth ŷch‑chi wedi gweld a cliwed: dinion dall in gweld shwrne 'to, dinion cloff in cered, dinion â crwen tost in lân, dinion biddar in cliwed, dinion marw in câl u codi a Newyddion Da in câl i brigethu i ddinion llwm; a ma'r rhei sena‑i in u sinnu nhwy in hapus.”
Pan we'r dinion ddâth wrth Ioan wedi mynd gwedo Iesu wrth i crowde amdano, “Beth etchoch‑chi mas i'r lle diffeth i weld? Brwynen in câl shiglo 'da'r gwynt? Ond beth ethoch‑chi mas i weld? Dyn in gwishgo dillad meddal? Ma'r rhei sy'n gwishgo dillad crand a'n byw bowid rhwydd in byw miwn palas brenin. Ond beth ethoch‑chi mas i weld? Proffwd? Ie wir, dw‑i'n gweu 'tho chi 'na beth ethoch‑chi mas i weld, ond mwy 'na 'ny 'fyd. Co'r un ma'r Isgrithur in gweud amdano,
'Dricha 'ma, dw‑i'n hala in negesydd o di flân di,
Bydd e'n neud ir hewl in barod o di flân di.’
Dw‑i'n gweu tho chi, sneb sy wedi câl i eni in fwy 'na Ioan; ond ma'r lleia in Teyrnas Dduw in fwy nag e.” (Pan gliwon‑nhwy hyn, nâth i bobol i gyd a'r rhei we'n casglu trethi roi'r mawl i Dduw wedd‑e'n haeddu, achos wen‑nhwy i gyd wedi câl u bididdio 'da bedydd Ioan. Ond we'r Ffariseied a'r rhei we'n disgu'r Gifreth we'n pallu câl u bididdio 'da Ioan wedi troi cewne ar beth we Duw moyn iddyn nhwy neud.)
“I beth ma pobol heddi in debyg? Shwt beth yw‑nhwy? Man‑nhwy fel plant sy'n ishte in i farcet a'n gweiddi ar i gily,
'Nethon‑ni ware tiwn bert ichi ar i wît, ond nethoch‑chi ddim dawnso;
ganon‑ni gân drist ichi, ond nethoch‑chi ddim llefen.”
Achos dâth Ioan Fididdiwr in un we ddim in bita bara na'n hifed gwin, a wedoch‑chi, 'Ma cithrel 'dag e.’ Ma Crwt i Dyn wedi dod in bita a hifed, a ŷch‑chi'n gweud, 'Drichwch, bolgi, un sy'n hifed gwid, a ffrind i'r rhei sy'n casglu trethi a rhei sy ddim in mynd i'r cwrdd.’ Câs Doethineb i dangos i fod in iawn in i phlant i gyd.’
Gofino un o'r Ffariseied iddo ddod i gâl pryd o fwyd 'dag e; a âth‑e miwn i dŷ'r Ffariseiad a ishte lawr. Nawr we menyw in byw in i dre we tipyn o enw iddi. Wedd‑i'n gwbod i fod e'n ishte in tŷ'r Ffariseiad a dâth hi â botel fowr o sent. Safodd hi tu‑ôl wrth i drâd in llefen, a dachreuodd‑i lwchu i drâd 'da i dagre. 'Na lle wedd‑i'n in sichu i drâd e 'da i gwallt, in u cusanu nhwy, a'n rhoi sent arnyn nhwy. Pan welo'r Ffariseiad we wedi gofyn i Iesu ddod i'r tŷ beth we'n digwydd, gweddodd‑e wrtho i unan, “Os bise'r dyn 'ma in broffwd bise fe'n gwbod pwy short o fenyw yw hon sy'n twtsh ag e. Bise fe'n gwbod in iawn pwy short o hanes sy iddi.” Atebo Iesu fe, “Simon, ma rhwbeth 'da fi i weud wrthot ti.” Atebodd‑e, “Gwed beth yw e, Mishtir.” “We dou ddyn â rwbeth arnyn nhwy i ddyn we'n mentig arian. We ar un dyn pum cant punt, we hanner cant punt ar i llall. Achos u bod nhw'n ffaelu talu fe dalodd‑e u diled drotyn nhwy. P'un o nwy fydd in i garu e fwya?” Atebo Simon, “Ir un we arno fe fwya, glei.” Gwedo Iesu wrtho, “Wit‑ti'n iawn.” Troiodd‑e at i fenyw a gweu‑'th Simon, “Wit‑ti'n gweld i fenyw 'ma? Es‑i miwn i di dŷ di. Nes‑di ddim paratoi dŵr in drâd i; ond ma‑hi wedi glwchu in drâd 'da'i dagre a sichu nhwy 'da'i gwallt. Nes‑di ddim rhoi cusan ifi; ond, o'r amser des‑i miwn, seni wedi stopo cusanu'n drâd i. Nes‑di ddim rhoi oel arna i; ond ma‑hi wedi rhoi oel â smel ar in drâd i. 'Na pam dw‑i'n gweu‑thoch chi er i bod hi'n bechadures fowr ma‑hi wedi câl maddeuant am i cwbwl, a ma maint i chariad hi in dangos 'ny. Ma unrhiw un sy ddim ond wedi câl tamed wedi madde iddyn nhwy dim ond in caru tamed 'fyd.” Wedyn wedodd‑e wrthi, “Ma di bechode di wedi câl u madde.” Wedo'r rhei we'n ishte 'dag e wrth i ford wrth i gily, “Pwy yw hwn sy hyd‑'nôd in madde pechode?” Gwedodd‑e wrth i fenyw, “Ma di ffydd di wedi di safio di. Cer mewn heddwch.”