Gwedodd‑e wrth i crowde we'n dod mas iddo fe gâl u bididdio nhwy, “Ŷch‑chi'n ddim gwell na nythed o nadrodd, pwy nâth weu 'thoch‑chi jengid wrth i llid i ddod? Dangoswch wrth shwt ŷch‑chi'n byw bo chi wedi 'difaru'n iawn; a peidwch clebran rhynt ich gily, 'Abraham yw'n tad ni', achos dw‑i'n gweu 'thoch chi galle Duw godi plant i Abraham o'r cerrig 'ma. A 'ta beth, ma'r fwyell in barod wrth wreiddyn i llwyni. Bydd bob llwyn sy ddim in dod â ffrwyth da in cael i dorri lawr a'i dowlun in i tân.”
Holo'r crowde iddo, “Beth wedyn 'te gallwn‑ni neud?” Atebodd‑e nhwy, “Gall ir un sy â dou grys rannu gyda'r un sy heb ddim un, a gall ir un sy â bwyd neud 'run peth.” We hyd 'n‑ôd i rhein we'n casglu trethi in dod mas i gâl i bididdio, a wedon‑nhwy wrtho fe, “Mishtir, beth ŷn‑ni fod i neud?” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Peidwch codi mwy nag ŷch‑chi fod i neud in ôl i drefen.” We sowldiwrs in i holi e, “A beth ŷn‑ni i neud?” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Pidwch bwlian neb na'u fforso nhwy roi u harian ichi; biddwch in folon 'da'ch pai.”
We dinion in disghwyl rhwbeth mowr a we bob un in meddwl obitu Ioan a fe we'r Meseia neu beido, atebo Ioan nhwy i gyd, “Mae'n ddigon gwir bo fi wedi'ch bididdio chi 'da dŵr, ond ma'r un sy'n grifach na fi in dod, a sena‑i'n ddigon da i ddatod carre u sgidje fe. Bydd‑e'n in ich bididdio chi 'da'r Isbryd Glân a 'da tân. Ma'i raw nitho in i law e, in barod i glau'r llawr dirnu a casglu'r llafur miwn i'r sgubor; ond losgith e'r rest 'da tân sy byth in diffod.”
Gida'r geire 'ma a rhei erill tebyg iddyn nhwy bregethodd‑e'r Newiddion Da i bobol. Ond roiodd‑e stwr i Herod i tetrach achos Herodias, gwraig i frawd, a'r holl bethe drwg erill wedd‑e wedi'u neud. Wedyn âth Herod a neud un peth drwg arall, cloi Ioan lan in i shâl.
Pan we'r bobl i gyd wedi'i câl i bididdio, câs Iesu i fididdio 'fyd, a pan wedd‑e'n gweddïo, agorodd i nefodd, a dishgynodd ir Isbryd Glân fel colomen arno fe. Dâth llaish o'r nefod, “Ti yw in Grwt annwil i, in unig Grwt i. Dw‑i'n blêsd 'da ti.”
We Iesu'n rhyw ddeg-ar-hugen wedi pan ddachreuodd‑e ar i waith. Wedd‑e'n grwt i Joseff (fel we dinion in meddwl), crwt Heli, crwt Mathat, crwt Lefi, crwt Melchi, crwt Jannai, crwt Joseff, crwt Matathias, crwt Amos, crwt Nahum, crwt Esli, crwt Naggai, crwt Maath, crwt Matathias, crwt Semein, crwt Josech, crwt Joda, crwt Joanan, crwt Rhesa, crwt Serubabel, crwt Shealtiel, crwt Neri, crwt Melchi, crwt Addi, crwt Cosam, crwt Elmadam, crwt Er, crwt Iesu, crwt Elieser, crwt Jorim, crwt mathat, crwt Lefi, crwt Simeon, crwt Jwdas, cwrt Joseff, crwt Jonam, crwt Eliacim, crwt Melea, crwt Menna, crwt Matatha, crwt Natahn, crwt Dafydd, crwt Jesse, crwt Obed, crwt Boas, crwt Shela, crwt Nashon, crwt Aminadab, crwt Admin, crwt Arni, crwt Hesron, crwt Peres, crwt Jwda, crwt Jacob, crwt Isaac, crwt Abraham, crwt Tera, crwt Naor, crwt Serug, crwt Reu, crwt Peleg, crwt Eber, crwt Shela, crw Noa, crwt Lamech, crwt Methwsela, crwt Enoch, crwt Jared, crwt Mahalaleel, crwt Cainan, crwt Enos, crwt Seth, crwt Adda, crwt Duw.