Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 11:1-54

Luc 11:1-54 DAFIS

Wedd‑e'n gweddïo'n rhiwle a, pan stopodd‑e, gwedodd un o'i ddisgiblion wrtho fe, “Arglwidd, dysga ni i weddïo, fel disgodd Ioan i ddisgiblion.” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Pan ŷch‑chi'n gweddïo gwedwch: Dad, ŷn-ni moyn gweld di enw'n câl i barchu; ŷn‑ni moyn gweld di Deyrnas di'n dod; rho ddigon o fara i ni ar gownt heddi; madde in pechode ni, achos ŷn-‑ni'n madde i bobun sy mewn diled i ni; a paid â dod â ni i gâl in profi.” Gwedodd‑e wrthyn nhwy 'fyd, “Gwedwch bo ffrind 'da un ono chi a bo chi'n mynd ato fe ganol nos a gweu‑'tho fe, 'Ffrind, rhoi fentig tair torth ifi. Mae ffrind i fi sy'n trafeilu'n bell wedi galw arna i a sdim byd 'da fi i roi o'i flân e', a bo e'n ateb, “Paid poeni fi. Ma'r drws wedi cloi a dw‑i a'r plant in gwely; galla‑i ddim codi a rhoi dim iti.’ Dw‑i'n gweu‑'thoch chi, er na fydd‑e'n codi i rhoi dim iddo achos i fod e'n ffrind iddo, fe neith‑e godi a rhoi fel sy ishe arnon fe achos i fod e mor ddigwilydd in holi. “Dw‑i'n gweuth‑'thoch chi, Holwch a bydd‑e'n câl i roid ichi; whiliwch a ffindwch‑chi; cnocwch a geith i drws i agor ichi; achos bydd bob un sy'n holi in câl, a bydd i drws in agor i bob un sy'n cnoco. P'un o chi sy'n dad os bidde plentyn i chi in gofyn am bisgodyn in rhoi neidr iddo in lle? Neu a fidde fe rhoi sgorpion iddo fe in lle wŷ? Os ŷch‑chi 'te, sy'n ddinion drwg, in gwbod shwt i roi pethe da i’ch plant, gwmint in fwy roith ich Tad nefol ir Isbryd Glân i'r rhei sy'n holi amdano!” Wedd‑e'n towlu cithrel mas we'n ffeilu sharad. Pan âth i cithrel mas we'r dyn in galler sharad, a we'r crowde wedi sinnu. Ond holodd rhei a gweud, “Mae‑e'n iwso Beelsebwl, i pen cithrel, i dwolu mas cithreilied.” Rhoiodd rhei erill dest iddo fe a gofyn am arwidd o'r nefodd. Wedd‑e'n gwbod beth wen‑nhwy'n i feddwl a gwedodd e wrthyn nhwy, “Bydd pob teyrnas sy'n troi in erbyn i hunan in ffeilu, a tŷ ar ôl tŷ in cwmpo. A os yw Satan wedi troi in erbyn i unan, shwt neith i derynas e sefyll? Dw‑i'n gweud hyn achos bo chi'n gweud bo fi'n iwso Beelsebwl i dowlu mas cithreilied. Os dw‑i'n iwso Beelsebwl i dowlu mas cithreiled, pwy ma’ch dinion chi in iwso? So nhwy fydd in farnwyr arnoch ch. Ond os iwsa‑i fys Duw i dowlu mas cithreiled, ma Teyrnas Duw in bendant wedi dod atoch chi. Pan ma dyn cryf arfog in drych ar ôl i beth i unan, ma popeth sy 'dag e in sâff; ond pan ma dyn crifach in dod arno a'n i drechu fe, mae‑e'n mynd ag arfe we'r dyn dryf wedi dependo arnyn nhwy, a'n rhannu mas beth mae‑e wedi concro. Os nag yw dyn 'da fi mae‑e in in erbyn i, a os nadi dyn in in helpu i i rowndo'r defed miwn mae‑e'n u hala nhwy bob ffordd. “Pan ma isbryd bowlyd in mynd mas o ddyn, mae‑e'n mynd trw lefyd lle na wes dŵr in whilio am rywle i gâl hwe. Pan mae‑e'n ffeilu ffindo lle mae‑e'n gweud, “Â‑i nôl i'n gatre i o lle ddes‑i mas.” Mae'n dod a ffindo'r lle wedi'i glau a'n deidi. Wedyn eith‑e bant a dod â saith isbryd arall sy'n fwy drwg nag e, a man‑nhwy'n mynd miwn a'n setlo lawr fan 'na; a ma'r dyn 'na in wâth stât ar i diwedd na ar i dachre.” Fel wedd‑e'n gweud hyn, gweiddodd menyw mas arno fe o'r crowd, “Ma'r bola 'nâth di gario di, a'r briste nes‑di sugno in hapus.” Ond wedodd‑e, “Bidde'n well gweud, ‘Ma'r rhei sy'n cliwed neges Duw a'n gadw fe in hapus.” Fel we'r crowde in gwasgu rownd 'ddo fe, gwedodd‑e, “Ma'r genhedlaeth ddrigionus 'ma in gofyn am arwidd, ond geith‑i ddim arwid ond am arwidd Jona. Achs fel we Jona in arwydd i ddinion Ninefe, bydd Crwt i Dyn in arwydd i'r genhedleth 'ma. Bydd cwîn i de in codi amser i farn gida dinion i genhedleth 'ma a'n u condemno nhwy, achos dâth‑i o bendraw'r byd i gliwed doethieb Solomon; ond mae rhwbeth mwy 'na Solomon fan 'yn. Bydd dinion Ninefe in sefyll lan amser i farn gida'r genhedleth 'ma a'n i chondemo hi, achos pan bregethodd Jona iddyn nhwy fe ddifaron‑nhwy; ond ma rhwbeth mwy 'na Jona fan 'yn. “Sneb in cinnu canwill a'n i chwato hi neu'n i rhoi 'ddi dan gerwn mowr; man‑nhwy'n i rhoi 'ddi ar stand, fel bo dinion in galler gweld i gole wrth ddod miwn. Di ligad di yw lamp i corff. Pan ma di ligad di'n iach ma di gorff di i gyd in llawn gole; ond pan mae e'n afiach ma di gorff di 'fyd in llaw tewillwch. Os yw di gorff di gyd in llawn gole, heb ddim tewillwch o gwbwl, bydd‑i mor ole a pan ma lamp in sheino.” Wedi 'ddo sharad, gofino Ffarisead iddo fe ddod ato fe i gâl pryd o fwyd; âth‑e miwn a ishte wrth i ford. We'r Ffarisead in sinnu bo fe ddim wedi golchi i unan fel ma'r grefydd Iddewig in gofyn ichi neud cyn bita pryd o fwyd. Gwedo'r Arglwidd wrtho fe, “Fel hyn ma‑i, ŷch‑chi'r Ffariseied in clau tu fas i cwpan a'r ddishgil, ond ma’ch tu fiwn chi'n llawn rhaid a drwg. Ffwlied dwl, ddim ir un un a nâth i tu fas nâth neud i tu fiwn ‘fyd? Ond rhowch in elusen i pethe sy tu foewn, a bydd popeth in lân i chi. Druens â chi, Ffariseied! Ŷch‑chi'n talu degwm ar fint, riw, a pob math o herb, ond ŷch‑chi'n anghofio am gifawndwer a caru Duw. Co'r pethe dileech‑chi fod wedi'u cadw nhwy heb anghofio'r pethe erill. Druens â chi, Ffariseied! Ŷch‑chi'n dwlu ar i sêt fowr in i sinagog a bo dinion in ich nabod lli in i farced. Druens â chi! Ŷch‑chi fel twme sneb in silwu arnyn nhwy, a ma dinion in cered drostoch chi heb wbod.” Atebo un o'r rhei we'n disgu'r Gifreth e a gweud, “Athro, pan wit‑ti'n gweud i pethe 'ma wit‑ti in in ypseto ni ‘fyd.” Gwedodd‑e, “Druens â chi ‘fyd te, i rhei sy'n disgu'r Gifreth! Ŷch‑chi'n rhoi beichie ar ddinion sy'n galed i gario, a senoch‑chi'n twtsh â'r beiche â blân ich bise hyd‑'nôd. Druens â chi! Lladdodd ich tade i proffwydi a chi'n sy'n codi'u twme. Ŷch‑chi wedyn in distion a'n cituno 'da beth nâth ich tade; lladdon‑nhwy e a ŷch‑chi'n codi'u twme nhwy. Achos hyn ma Doethineb Duw in gweud, ‘Hala‑i broffwydi a negeseuwyr atyn nhwy, a biddan‑nhwy in lladd neu'n erlid rheio ohonyn nhwy.’ We hyn fel cese gwâd i proffwydi a gâs i sarnu 'ddar creu'r byd in câl i ddial amdano ar i genhedleth 'ma, o wlad Abel i wlad Sechareia a farowdd rhynt i'r allor a'r lle sanctedd. Ody wir, dw‑i'n gweu’tho chi, bydd dial ar i genhedleth 'ma. Druens o'r rhei sy'n disgu'r Gifreth! Ŷch‑chi wedi cwmrid bant ir allwe i wibodaeth; senoch‑chi’ch hunen wedi mynd miwn a ŷch‑chi wedi stopo'r rhei we'n golgu mynd miwn.” Pan âth‑e mas o'r fan 'ny, âth i rhei we'n disgu'r Gifreth a'r Ffariseied wedi mynd in grac a holon‑nhwy lot o gwestjwne iddo fe am lot o bethe; wen‑nhwy in gorwe in barod i jwmpo ar unrhiwbeth wedd‑e'n debyg o weud.