A fe âth bobun ohyn nhwy getre; ond fe âth Iesu i Fini'r Llwyn Olifs. A'n ginnar in i bore, âth i'r demel shwrne to. Dâth i boboli gyd atofe; a ishteddodd e lawr a dachre'u digwu nhwy. Dâth i Ffariseied a'r rhei we'n disgu'r Gifreth â menyw we wedi câl i dala in godinebu. Rhoion nhwy hi i sefyll rhinto nhwy'u hunen a Iesu, a gwedon nhwy wrtho fe, “Mishtir, ma'r fenyw 'ma wedi câl i dala in godinebu. Ma Cifreth Moses in gweud dile hi gâl i lladd wrth dowlu cerrig ati hi. Beth wit ti'n gweud?” Wedon nhwy hyn er mwyn i brofi fe, fel u bo nhwy in galler dod â rhwbeth in i erbyn e. Ond i cifan nâth Iesu we pligu lawr a reito ar i ddeiar gyda'i fys. Ond gadwon nwy mlân i holi, a in i diwedd 'co Iesu in sefyll lan a gweu 'thyn nhwy, “Gadwch i un o chi sy heb bechod dolwu'r garreg ginta ati hi.” A pligodd e lawr a dachre reito ar i ddeiar shwrne 'to. Pan gliwon nhwy hyn ethon nhwy mas un wrth un in dachreu gida'r dinion hena, a gâs e i adel ar ben i unan 'da'r fenyw lle wedd i. Safo Iesu a gweu 'thi hi, “Fenyw, ble mân nhwy? Sdim un ohnyn nhwy wedi di gondemno di?” Gwedodd hi, “Dim un, Mishtier.” A gwedo Iesu, “Sena i in di gondemno di whaith. Cer, a paid pechu 'to.”
Darllen Ioan 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 8:1-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos