Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 7:25-44

Ioan 7:25-44 DAFIS

We rhei o'r dinion o Jerwsalem in gweud. 'Hwn yw'r dyn man nhwy moyn i ladd e, ondife? Ond fan 'yn mae e'n sharad in agored i bob un i gliwed e. A sneb in pledo 'dag e o gwbwl. Ŷch chi'n meddwl bo nhwy'n gwbod taw fe yw'r Meseia? Ond shwt galle 'na fod? Sneb in gwbod o ble bydd i Meseia in dod, a ŷn ni'n gwbod o ble ma'r dyn hwn in dod.” Fel we Iesu in disgu in i demel, fe weiddodd e. “Ŷch chi'n meddwl ich bo chi'n in nabod i a'n gwbod o ble dwi'n dwâd? Ddes i ddim ar in ben in unan! Ma'r un nâth in hala i in gweud i gwir, ond senoch chi'n nabod e. Ond dwi'n gwbod pwy yw'r un nâth in hala i, achos wi'n dod wrtho fe.” We rhei dinion am aresto Iesu in i fan a'r lle. Ond nâth ddim un roi llawr arno fe, achos wedd i maser e ddim weid dod 'to. Rhoiodd lot o bobol o'r crowde u ffydd indo fe a gweud, “Pan ddeu 'th i Meseia, fydd ei ddim in neud mwy o wyrthie 'na ma hwn in i neud!” Cliwo'r Phariseied i crowd in clebran i pethe 'ma amdano fe 'da'i gily. A wedyn halo'r ffeiradon mowr a'r Phariseied polisis i demel i fynd a'i aresto fe. Gwedo Iesu, “Bidda i 'da chi am sbel fach 'to, a wedyn bidda i'n mynd nôl at ir un nâth in hala i. Biddwch chi'n whilio amdana i, ond gewch chi ddim ona i. Allwch chi ddim dwâd i ble dwi'n mynd. Gwedo'r Iddewon wrth i gily, “Ble ma'r dyn ma'n golgu mynd? Ody e'n meddwl gewn ni ddim gafel arno fe? Eith e i ble ma'n pobol ni'n byw in ganol i Groegied? Eith e fan 'ny i i ddisgu'r Groegied? Beth wedd e'n i feddwl pan wedodd e, 'Byddwch chi'n whilio amdana i, ond gewch chi ddim gafel arna i'? a, 'Allwch chi ddim dwâd i ble dwi'n mynd'?” Nawr 'te, dwarnod diwetha a pwysica'r Ŵyl wedd i. Safo Iesu lan a gweiddi â llaish uchel, “Os wes siched arnoch chi dewch ata i a hifed. Wes rhiwun onoch chi in credu inda i? Wel wedyn 'te, in gowir fel ma'r Isgrithur in gweud, bydd ffinhone o ddŵr glân byw in llifo mas o'r un sy'n credu.” We Iesu in sharad obitu'r Isbryd Glân byse'n câl i roi i bob un we'n credu indo fe. Amser 'ny we'r Isbryd Glân ddim wedi câl i roi i neb, achos we Iesu ddim wedi câl i ogoniant bryd 'ny.” Pan gliwon nhwy i eire fe, gwedo rhei dinion, “Ma'n rhaid taw hwn yw'r Proffwd rŷn ni wedi bod in dishgwyl amdano.” We dinion erill in gweud, “Fe yw'r Meseia.” Gofino rhei erill, “Shwt all i Meseia ddwâd o Galilea? Seno'r Isgrithur in gweud taw o dilwith Dafydd bydd e'n dwâd? Senyn nhwy'n gweud taw o Bethlehem, i dre lle we Dafydd in byw, fydd e'n dwâd?” So we dinion ddim in cyd-weld obitu pwy we Iesu. We rhei ishe i aresto fe. Ond nâth neb roi bys arno.