Sena i dim ond in gweddïo dros rhein, ond dros i rhei erill fydd in credu inda i trwy'u gair nhwy. Dad, gad nhwy i gyd fod in un; fel wit ti inda i a fi indo ti, gad iddyn nhwy fod indo ni, fel bo'r byd in credu di fod di wedi'n hala i. Dw i wedi rhoi'r gogoniant iddyn nhwy wet ti wedi rhoi i fi, fel u bo nhwy'n un fel ŷn ni'n un, fi indyn nhwy a ti inda i; fel bo nhwy'n câl u neud in berffeith nes iddyn nhwy fod in un, fel bo'r byd in gwbod bo ti wedi'n hala i, a bod ti wedi'u caru nhwy fel wit ti wedi'ng garu i. “Dad, rhoies ti nhwy i fi a dw i am iddyn nhwy fod gida fi ble wdw i, fel gallan nhwy weld ing ngogoniant i, gogoniant nes ti roi i fi cyn bo'r byd wedi câl ineud. Dad cyfiawn, seno'r byd wedi di nabod di, ond dw i wedi di nabod di, a ma'r dinion hyn in gwbod taw ti nâth i'n hala i. Dw i wedi gadel iddyn nhwy wbod di enw di a bidda in gadel i ddinion wbod di enw di, fel bo'r cariad wit ti in in garu i gidag e indyn nhwy, a fi indyn nhwy.”
Darllen Ioan 17
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 17:20-26
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos