Gwedo rhei o'i ddisgiblion e wrth i gily, “Beth mae e'n goligu wrth weud, 'O fon hir newch chi ddim ing ngweld i 'to; a wedyn miwn tamed bach weth biddwch chi in ing ngweld i'? a 'Achos bo fi'n mynd at i Tad'?” So wedon nhwy, “Beth mae e'n meddwl wrth wedu 'o fon hir'? Senon ni'n gwbod beth mae e'n sharad amdano.” We Iesu in gwbod u bod nhw am i gwestjwno fe, a wedodd e wrthyn nhwy, “Beth ŷch chi'n holi i'ch hunen? Ody e am beth dwi wedi'i weud, 'O fon hir newch chi ddim ing ngweld i 'to; a wedyn miwn tamed bach weth biddwch chi in ing ngweld i'? Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, biddwch chi'n galaru ac in mwrno, ond bydd i byd wrth i fodd; biddwch chi'n drist, ond bydd ich tristwch chi'n troi in llawenydd. Pan ma menyw in geni babi ma i miwn pwen ofnadw achos bo'i thymp i wedi dod; ond wedi i'r babi gâl i eni, seni wedyn in cofio'r bwen achos i llawenydd bo babi newy wedi dwâd miwn i'r byd. Ma'n rhaid ichi fod in drist nawr; ond wela i chi weth, a bydd ich calon in llawen, a fydd neb in galler mynd â'ch llawenydd bant wrthoch chi. A'r dwarnod 'ny fiddwch chi ddim in holi unrhiw gwestjwne i fi. Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, os gofinnwch chi unrhiw beth i'r Tad in in enw i bydd e'n i roi e ichi. Hyd nawr senoch chi wedi holi am ddim byd in in enw i; gofinnwch a fe gewch chi, fel bo'ch llawenydd chi'n gifan.
“Gwedes i'r pethe hyn wrthoch chi mewn ffordd dewill. Ma'r amser in dwâd pa fydda i ddim in sharad â chi fel 'ny, ond bidda i'n sharad 'da chi'n blaen am i Tad. A'r dwarnod 'ny biddwch chi'n holi in in enw i, a sena i'n gweud wrthoch chi bidda i'n holi'r Tad drosto chi; achos ma'r Tad i unan in ich caru chi, achos ich bo chi wedi'ng ngaru i a credu bo fi'n dod wrth Dduw. Des i wrth i Tad, a dw i wedi dod miwn i'r byd; ond dw i'n gadel i byd 'to a'n mynd at in Dad.” Gwedodd i ddisgiblion, “A, nawr wit ti'n sharad in blaen, a ddim miwn ffordd dewill. Ŷn ni'n gwbod nawr bod ti'n gwbod pob peth, a sdim ishe i neb holi ddim byd i ti; 'na shwt ŷn ni'n gwbod bo ti wedi dwâd wrth Dduw.” Atebo Iesu nhwy, “Odych chi'n credu nawr? Drichwch, ma'r amser in dwâd — mae e ma in barod — pan fiddwch chi'n câl ich whalu i bob man, bob un i'w getre i unan, a'n gadel i ar in ben in unan; ond wedyn weth fidda i ddim ar in ben in unan, achos ma'r Tad 'da fi. Dw i wedi gweud i pethe hyn wrthoch chi fel bo chi'n galler câl heddwch. Biddwch chi'n câl trwbwl in i byd. O peidwch chi becso, achos dw i wedi concro'r byd.