“Fi yw'r llwyn grêps iawn, a'n Dad i yw'r un sy'n drich ar ôl i llwyn grêps. Ma e'n torri bant pob cangen sy ddim in tiddu ffrwyth, fel bo'r llwyn i unan in galler tiddu mwy o ffrwyth. Ŷch chi'n lân in barod achos i gair wi wedi'i weud wrthoch chi. Biddwch fyw inda i, fel dw i'n byw indo chi. Fel seno cangen in galler tiddu ffrwyth oni hunan, os na neith i fyw in i llwyn grêps, senoch chi'n galler neud 'ny whaith, os na newch chi fyw inda i. Fi yw'r llwyn grêps; chi yw'r canghene. Ma unrhiw un sy'n byw inda i, fel dw i'n byw indon nhwy, in tiddu lot o ffrwythe, achos hebdda i allwch chi neud dim byd. Ma unrhiw un sy ddim in byw inda i in câl i dowlu mas, in gowir fel ma cangen in câl i thowlu mas a'n gwywo. Wedyn ma'r cangene sy wedi'u towlu mas in câl u casglu, a'u towlu miwn i'r tân a'u llosgi. Os newch chi fyw inda i ac os neith ing ngeire i fyw indo chi, gallwch chi ofyn am beth binnag ichi moyn a geith e'i neud i chi. Ma'n Dad i in cal gogoniant pan fiddwch chi'n tiddu lot o ffrwythe a bod in ddisgiblion iawn i fi. Fel ma'r Tad wedi'ch caru chi dw i wedi'ch caru chi. Biddwch fyw in ing gariad i. Os newch chi gadw in orchminion i a byd in ing gariad i, fel dw i wedi cadw gorchminion in Dad a byw in i gariad e. Dw i wedi gweud hyn wrthoch chi fel bo'n llawenydd i indo chi, a fel bo'ch llawenydd chi in câl i neud in gifan. Co beth dw i moyn ichi neud, carwch ich gily fel dw i wedi'ch caru chi. Sdim mwy o gariad 'da neb na hyn: bo rhiwun in rhoi i fowid lawr dros i ffrinds. Ŷch chi'n ffrinds 'da fi os newch chi beth dw i'n gofyn ichi neud. 'Na i ddim ich galw chi'n weishon 'to, achos seno gwas in gwbod beth mae'i fishtir in neud; ond dw i wedi'ch galw chi'n ffrinds, achos bo fi wedi gadel ichi wbod popeth dw i wedi cliwed wrth i Tad. Ddim chi nâth in ddewish i, fi nâth ich dewish chi a'ch pennu chi fynd a tiddu ffrwyth, ffrwyth bydd in para, fel bo'r Tad in galler rhoi i chi beth binnag ŷch chi'n gofyn iddo fe in in enw i. 'Co beth dw i moyn ichi neud: carwch ich gily.
Darllen Ioan 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 15:1-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos